Gwirfoddoli yn ffordd o fyw i Elan
Mae Elan Môn Gilford, myfyrwraig o Lanfairpwll sydd yn ei blwyddyn gyntaf yn astudio Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, yn un o blith ond 20 o bobl ledled y byd sydd wedi derbyn Gwobr Etifeddiaeth Diana (Diana Legacy Award) am waith gwirfoddol.
Rhoddir y Wobr yn enw’r Dywysoges Diana i bobl ifanc sydd yn gosod esiampl wrth roi o’u gwirfodd er mwyn trawsnewid bywydau eraill. Mae’r wobr yn cydnabod pobl ifanc sydd yn mynd y tu hwnt i’w bywydau dyddiol hwy er mwyn creu a chynnal newid positif.
Mae Elan, sydd yn 18 0ed, yn mwynhau chwaraeon o bob math ac wedi ei gwobrwyo am ei brwdfrydedd wrth rannu ei hangerdd dros chwaraeon gydag eraill. Mae Elan wedi treulio dros 2000 o oriau dros gyfnod o flwyddyn yn gwirfoddoli. Mae hi’n rhannu ei sgiliau hyfforddi, mentora a threfnu gyda amrediad o Glybiau a Thimau plant, gan gynnwys pêl-rwyd, athletau, hoci a rygbi.
Mae hi wedi cyflawni nifer o nodau personol, gan gynnwys Dan 1af Beltiau Du mewn Shukokai Karate a bocsio cic a Medal Aur mewn Karate yng Nghystadleuaeth Genedlaethol UKASKO yn 2012. Mae hi’n cynrychioli Gogledd Orllewin Cymru mewn Pêl-rwyd ac wedi cyflawni nifer o gymwysterau arwain a hyfforddi chwaraeon.
Bellach yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor, mae Elan yn bwriadu parhau gyda’i gwirfoddoli ym maes chwaraeon ac wrth ei bodd ei bod wedi ei dewis i chwarae i Dîm Cyntaf Pel-rwyd Brifysgol. Yn ogystal â’r gweithgareddau hyn, mae hi’n bwriadau parhau fel hyfforddwr karate rhan-amser gyda Pritchard’s Martial Arts yng Nghaernarfon fel modd o gynnal a rhedeg ei char!
Mae Elan â blwyddyn brysur o’i blaen gan ei bod, yn ogystal â’i hastudiaethau, gwirfoddoli a gwaith, hefyd yn Llysgennad dros y Gwobrwyon Diana ac yn mynychu sawl achlysur drwy’r flwyddyn. Ym mis Tachwedd bydd Elan yn cyd-gyflwyno Gwbrau Inspire Diana yng Nghaerdydd.
Eisoes yn ddeiliad Gwobr Inspire, enwebwyd Elan am Wobr Diana gan ei hathrawes Ymarfer Corff yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda
Dyma y dywedodd am ennill y Wobr Etifeddiaeth:
“Roeddwn mewn sioc! Nid oeddwn yn credu fy mod wedi fy cael newis yn un o 20 yn fyd-eang i dderbyn y wobr! Mi fues i’n cyfarfod â’r derbynwyr eraill, o bob rhan o’r byd a phob un efo stori wahanol i’w rannu ac mi ges i gwrdd â Thywysogion William a Harry hefyd. Cyn y seremoni, roeddynt wedi dweud cymaint oedd y Gwobrau yn ei olygu iddynt ac yn goffadwriaeth i’w mam a sut mae ei gweithredoedd dewr a dyngarol hi wedi ysbrydoli eraill i wirfoddoli ar draws y byd.”
Dechreuodd Elan wirfoddoli gyda’r Urdd, ac roedd yn Arweinydd Chwaraeon Mileniwm gyda’r Urdd ac yn Llysgennad Ifanc Platinwm 5x60 Chwaraeon Cymru.
Meddai:
“Mae rhywun wastad ar eu hennill wrth wirfoddoli; mae’n eich tynnu oddi wrth weithgareddau dydd i ddydd ac yn cynnig rhywbeth i’w edrych ymlaen ato, pleser sydd yn costio dim i chi ond amser, ac rwy’n hapus iawn i rannu fy amser.”
“Rwy’n gwirfoddoli gan fy mod yn dysgu yn barhaus, boed yn ddysgu rhywbeth newydd am bobol eraill, am gydweithredu, am dosturi neu amdanaf fi fy hun. Mae gan bobl ifanc frwdfrydedd gwirioneddol dros greu byd gwell a mwy iach, boed hynny drwy fod yn ysbrydoliaeth, yn fentrus neu drwy haelioni.”
Mae Elan wedi dysgu llawer o ganlyniad i’w phrofiadau. Meddai:
“Mae gwirfoddoli yn broses ddysgu barhaus; rydych angen amynedd, dealltwriaeth o bobl eraill ac mae’n rhaid i chi gynnig anogaeth a symbyliad a bod yn barod ar gyfer heriau newydd.
Rwyf wedi wynebu nifer o heriau! Gan i mi dderbyn diagnosis o fyddardod yn dair oed, mae gwirfoddoli wedi bod yn gam mawr i mi, yn enwedig gan fy mod yn dibynnu ar ddarllen gwefusau a’r hyn rwy’n ei glywed o’m dau gymhorthydd clyw. Mae’n debyg mai ceisio darllen gwefusau 20-30 o blant sydd yn siarad ar draws ei gilydd mewn canolfan chwaraeon yw un o’r heriau mwyaf anodd hyd yn hyn! Ond rwyf wedi goroesi ac mae’r plant yn dangos eu dealltwriaeth. Rwyf hefyd yn dweud wrth y plant fy mod yn fyddar ac yn gwisgo dau gymhorthydd clyw ac felly, os ydynt eisio gofyn cwestiwn, rhaid iddynt godi eu llaw. Gyda hyn allan o’r ffordd ar gychwyn pob sesiwn, mae pob dim arall yn disgyn i’w le.
“Ar y dechrau, mi ddaru fy hunanhyder gynyddu ac yna datblygodd fy natur gystadleuol, gan arwain at gystadlu ar lefel uchel wrth ymgymryd â chwaraeon prif-ffrwd. Wrth wirfoddoli, rwyf wedi llwyddo i ddangos i eraill nad oes rhaid i anabledd effeithio ar yr hyn y gallech ei gyflawni. Mae wastad datrysiad i unrhyw anhawster os ydych yn barod i weithio’n galed.
Ar ben y gallu i bicio adra am ginio dydd Sul, dewisodd Elan astudio ym Mhrifysgol Bangor am fod y cyfleusterau a’i chwrs delfrydol ar stepen ei drws.
Meddai: “Mae fy nhiwtoriaid yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn wych a fy nhiwtor personol, Dr Eleri Jones yn unigryw; mae ganddi amser i bawb a phopeth, ac mae mor ddymunol ei natur. Er i mi fod yma ond ychydig wythnosau hyd yma, rwyf eisoes wrth fy modd ac yn falch fy mod wedi dewis Bangor.”
Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2017