Gwirfoddolwyr yn derbyn anrhydedd gan Yr Urdd
Derbyniodd Bryn Tomos, darlithydd yn Ysgol Addysg Prifysgol Bangor, ynghyd â’i wraig, Marian Tomos, Dlws John a Ceridwen Hughes 2012 yn Eisteddfod yr Urdd yn ddiweddar.
Derbyniodd Bryn Tomos, darlithydd yn Ysgol Addysg Prifysgol Bangor, ynghyd â’i wraig, Marian Tomos, Dlws John a Ceridwen Hughes 2012 yn Eisteddfod yr Urdd yn ddiweddar.
Mae’r Wobr yn cael ei rhoi’n flynyddol i nodi "cyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru".
Cafodd Bryn a Marian Tomos eu henwebu gan aelodau'r Urdd a rhieni'r ardal am eu bod yn cynnal Uwchadran ac Aelwyd Bangor bob wythnos er 2004.
Meddai Mr Wyn Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor (Cyfrwng Cymraeg a Chysylltiad â’r Gymuned), Prifysgol Bangor:
“Mae'n enghraifft wych o ymwneud cymunedol gan aelod o staff sydd wedi rhoi oriau lawer o'i amser yn wirfoddol i gynnig cyfleoedd cymdeithasol a diwylliannol i bobl ifanc yr ardal. Mae Bryn Tomos, a’i wraig Marian, i’w llongyfarch yn fawr ar y wobr haeddiannol hon.”
Un o'r rhai a enwebodd y ddau oedd Yr Athro Gerwyn Wiliams, o Ysgol y Gymraeg y Brifysgol, sydd hefyd yn byw’n lleol.
Meddai’r Athro Gerwyn Wiliams: "Fu'r wireb 'os am rywun i wneud rhywbeth, yna gofynnwch i rywun prysur' erioed yn fwy priodol nag yn achos y cwpl cymwynasgar yma."
"Mae eu cyfraniad yn hollbwysig at gynnal Cymreictod ymhlith pobl ifanc Bangor a'r cylch.
Meddai Bryn Tomos:
“Roedd cael gwybod ein bod i dderbyn y Tlws yn hollol, hollol annisgwyl ac yn sioc lwyr i Marian a minnau yn ogystal â bod yn anrhydedd anferthol. Rydym o ddifrif yn teimlo’n gwbl annigonol, a bod pobol eraill lawer mwy haeddiannol- ac eto rydym yn hynod ddiolchgar - ymysg eraill, i’r plant sy’n dod i’r Aelwyd - dylwn ganu clod y plant am eu hymroddiad. Mae’n bleser mynd yno bob nos Iau. Tydi rhywun ddim yn cyfrannu er mwyn derbyn - rhoi nôl ydy’n bwriad ni gan ein bod wedi bod yn aelodau Aelwydydd yr Urdd pan oeddem yn blant, ac eisio rhoi nôl, ac wrth gwrs gyfrannu rhywbeth i blant Bangor.”
Yn ôl Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, mae cyfraniad y ddau'n amhrisiadwy.
"Rydym yn hynod o ddiolchgar am eu gwaith diflino yn ardal Bangor.
"Maen nhw'n cynnig cyfleoedd heb eu hail yn wythnosol i'r bobl ifanc ac mae'r nifer sydd yn mynychu yn brawf o'r mwynhad mae'r plant yn ei gael.
"Hefyd mae'n wych fod cwpl o Eryri wedi ennill gyda'r Eisteddfod yng Nglynllifon eleni."
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2012