Gwleidyddion o Gymru yn dysgu am waith ymchwil hollbwysig ar ganser ym Mangor
Rhoddwyd sylw i'r gwaith ymchwil arloesol ar ganser sy'n cael ei wneud yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol wrth i wleidyddion blaenllaw o Blaid Cymru ymweld yn ddiweddar â Sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin.
Cyfarfu Sian Gwenllian, ymgeisydd Arfon Plaid Cymru i'r Cynulliad, Gweinidog Iechyd yr wrthblaid Elin Jones, ac AC Arfon Alun Ffred Jones ag Edgar Hartsuiker, Uwch Ddarlithydd mewn Bioleg Canser, Cadeirydd ac Arweinydd y Grŵp a'r Athro Dean Williams, Athro Llawfeddygaeth a Phennaeth yr Ysgol Gwyddorau Meddygol. Mae'r Athro Williams hefyd yn Llawfeddyg Fasgwlar Ymgynghorol a Chyffredinol yn Ysbyty Gwynedd.
Mae Sefydliad Cronfa Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer astudiaethau moleciwlaidd ar ganser ac yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr weithio ar brojectau ymchwil hanfodol fel rhan o'r cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig a ddysgir yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol.
Dywedodd Sian Gwenllian, a gollodd ei gŵr a'i thad i ganser: "Mae'r rhan fwyaf o deuluoedd yn nabod rhywun sydd wedi cael eu cyffwrdd gan ganser felly mae'r gwaith ymchwil sy’n cael ei wneud gan y sefydliad i'r clefyd ofnadwy hwn yn hollbwysig. Cefais argraff wych o'r gwaith sy'n cael ei wneud ac roedd yn rhagorol gweld y berthynas waith agos rhwng y sefydliad, Prifysgol Bangor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'r myfyrwyr."
Dywedodd yr Athro Williams: "Fel ysgol ac yn wir fel prifysgol rydym yn gwneud ymchwil o'r safon uchaf un mewn ystod eang o feysydd meddygol a meysydd sy'n ymwneud ag iechyd. Mae'r math yma o ymweliadau yn rhan bwysig o arddangos y rhagoriaeth hon tu hwnt i'r byd academaidd ac i hysbysu gwneuthurwyr polisi am y datblygiadau diweddaraf yn y frwydr yn erbyn canser."
Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2016