Gwnaeth Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor ddwyn bri ar enw Bangor yn Noson Wobrwyo Flynyddol UCM Cymru.
Nid yn unig gwnaeth Undeb Myfyrwyr Bangor ennill categorïau Cynrychiolydd Cwrs y Flwyddyn ac Aelod Staff y Flwyddyn yn Noson Wobrwyo flynyddol UCM Cymru eleni ond cawsant gymeradwyaeth uchel hefyd yng nghategori Undeb y Flwyddyn.
Martyn Curzey, sy'n 20 mlwydd oed, yn hanu o Aldridge yn Walsall ac yn astudio Cemeg gyda Gwyddor Biofoleciwlaidd ym Mangor, a enillodd wobr Cynrychiolydd Cwrs y Flwyddyn mewn seremoni a gynhaliwyd yng Ngwesty'r Hilton, Casnewydd yn ystod Cynhadledd UCM Cymru.
Dywedodd Martyn, sy'n gyn-ddisgybl yn Ysgol Aldridge: “Roedd yn sioc lwyr. Doeddwn i ddim yn disgwyl cael fy enwebu am y wobr, heb sôn am ei hennill. Roedd y seremoni yn ddifyr iawn, ac fel y gallwch ddychmygu, fe wnaeth ennill y wobr ei gwneud hyd yn oed yn well!"
Ychwanegodd: "Mae bod yn Gynrychiolydd Cwrs yn golygu mai chi yw llais y myfyrwyr ar eich cwrs. Rwy'n mynychu cyfarfodydd gyda staff fy ysgol, lle byddaf yn adrodd ar yr hyn sy'n gweithio a'r hyn sydd angen ei wella mewn perthynas â darlithoedd, labordai, adborth a chyfleusterau. Byddaf hefyd yn mynychu Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs, lle bydd myfyrwyr o'r holl wahanol ddisgyblaethau yn dod ynghyd i drafod problemau sy'n gyffredin drwy'r Brifysgol.
"Buaswn yn bendant yn argymell bod yn Gynrychiolydd Cwrs i unrhyw fyfyriwr sydd yn barod i siarad drosto'i hun a thros eraill! Rwy'n rhywun sydd â barn gref, ond rwyf hefyd wrth fy modd yn cynrychioli safbwyntiau pobl eraill. Mae hefyd yn ffordd wych o gymryd rhan mewn digwyddiadau fel y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr, ac yn ffordd o ddatblygu sgiliau diddorol."
Ynglŷn â'r dyfodol, dywedodd Martyn: "Rwyf wedi gwneud cais am radd Meistr mewn Bioleg Foleciwlaidd a Biotechnoleg ym Mangor, yn ogystal â chyrsiau Meistr eraill mewn mannau eraill yn y DU. Mae gen i dal gymaint i'w ddysgu!"
Dywedodd Anthony Butcher, Llywydd Undeb y Myfyrwyr: "Roedd yn wych i'r Undeb, ac i'n myfyrwyr anhygoel, i ni gael ein henwebu am gymaint o wobrau. Mae hyn yn gydnabyddiaeth o’r holl waith mae'r Undeb wedi bod yn ei wneud i wella'r profiad myfyrwyr ym Mangor, ac i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud y gwaith gorau y gallwn dros fyfyrwyr. Roeddwn wrth fy modd i ni gael cymeradwyaeth uchel fel Undeb Myfyrwyr y Flwyddyn, gyda'r beirniaid yn rhoi sylw arbennig i'n penderfyniad i fod y gorau un y gallwn fod. Rwyf hefyd yn hynod o falch dros Martyn Curzey, a enillodd Gynrychiolydd Cwrs y Flwyddyn a Rhys Dart, a enillodd Aelod Staff y Flwyddyn, y ddau ohonynt yn gwbl haeddiannol."
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2013