Gwneud defnydd llawn o blanhigion
Mae eiddew, sy’n tyfu’n helaeth yng Nghymru, yn un o nifer o blanhigion sy’n cael eu harchwilio am y cemegau mân ac echdynion a ffibrau gwerthfawr eraill maent yn eu cynnwys. Mae’r gwaith ymchwil yma’n cael ei gynnal mewn bioburfa ar Ynys Môn a allai gynnig model ar gyfer creu gwaith yng nghefn gwlad yn y dyfodol. Bwriad yr ymchwil yw chwilio am ddeunyddiau amgen i gymryd lle cynnyrch a chynhwysion sy’n deillio o olew crai a ddefnyddir yn y diwydiannau cynhyrchu ac adeiladu.
Canolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor sy’n gyfrifol am y gwaith yma o ddatblygu ffynonellau newydd ar gyfer cemegau mân a deunyddiau eraill. Mae’r Ganolfan yn canolbwyntio ar ganfod defnyddiau newydd ar gyfer adnoddau naturiol gwerthfawr sydd ar hyn o bryd yn cael eu hanwybyddu.
Mae’r gwyddonwyr yn gwneud gwaith ymchwil i’r cyfansoddion a geir mewn gwahanol blanhigion a sut y gellid eu defnyddio, a hefyd yn gwneud gwaith penodol o dan gontract i gwmnïau.
Gallai’r ffynhonnell newydd yma o ddeunyddiau naturiol greu cyfleoedd gwaith o bwys yng nghefn gwlad trwy gyfleusterau prosesu a elwir yn bioburfeydd.
Mae eiddew yn un o amryw o blanhigion sydd wedi cael ei archwilio’n drylwyr dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’n debyg y gallai eiddew ddarparu nifer o echdynion a ellid eu defnyddio mewn deunyddiau’n amrywio o gynnyrch personol fel siampŵ, at ddeunydd garddwriaethol a hyd yn oed yn y diwydiant bwyd.
Mae Dr Dave Preskett, sy’n gemegydd datblygiadol, wedi treulio 10 mlynedd yn edrych ar bob cyfansoddyn sydd yn eiddew ac mae’r hyn mae wedi ei ganfod yn ddiddorol iawn:
“Nid ydym yn gwneud y gorau o eiddew; mae’r planhigyn yn llawn potensial,” meddai. “Rydym wedi defnyddio echdynnyn ohono i wneud pelenni lladd gwlithod ac rydym wedi cynnal treialon yn ei ddefnyddio fel ffwngleiddiad i drin malltod tatws, yn lle chwistrellu cemegau sy’n deillio o olew, ac mae wedi profi’n effeithiol iawn yn diogelu cnydau. Mae potensial gwych o ran datblygu’r un echdynnyn i’w ddefnyddio mewn cynnyrch i drin cen ar y pen a tharwden y traed. Mae olew o’r aeron yn fwytadwy, gan nad yw eiddew yn wenwynig, yn wahanol i’r gred gyffredin. Mae iddo holl briodweddau iachusol olew olewydd ond mae iddo ansawdd debycach i fenyn neu lard.”
Fel yr esbonia Adam Charlton, rheolwr bioburfa’r Ganolfan ym Mona, Ynys Môn: “Ein rôl ni yw gwneud y gwaith maes sylfaenol ar gyfer cynnyrch newydd y gall busnesau eraill ei ddatblygu ar gyfer y farchnad. Rydym yn canolbwyntio ar ganfod defnydd newydd gwerthfawr ar gyfer deunydd o ffynonellau naturiol, a hynny’n amrywio o ddeunyddiau fferyllol a chemegau mân at deils toi ac insiwleiddio ar gyfer y diwydiant adeiladu.”
Ychwanega Dr Charlton: “Ni fyddai’r cnydau sydd dan ystyriaeth yn cystadlu am dir amaethyddol yn erbyn cnydau bwyd hanfodol gan eu bod yn tyfu fel arfer ar dir ffiniol gwael. Mae rhai’n cael eu cynhaeafu eisoes at ddiben arall, ond nid yw’r holl blanhigyn yn cael ei ddefnyddio. Rydym yn edrych ar ddefnyddio’r rhannau hynny o’r cnydau sydd ar hyn o bryd yn cael eu taflu ar ôl cynaeafu’r prif gnwd.”
Mae’r Ganolfan Biogyfansoddion hefyd yn defnyddio dulliau echdynnu yn ei bioburfa sydd yn fwy “gwyrdd” na’r rhai a ddefnyddir mewn diwydiant traddodiadol. Maent yn unigryw o ran cyfrifo “cost gynhwysfawr” prosesu, gan gynnwys yr ynni a ddefnyddir wrth echdynnu'r cyfansoddion a deunyddiau o’r planhigyn.
Mae’r Ganolfan yn arwain y maes yng Nghymru ac yn gweithio ar nifer o brojectau ymchwil Ewropeaidd; mae eu gwaith yn cefnogi polisïau cynaladwyedd llywodraethau Cymru, y DU ac Ewrop.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Tachwedd 2013