Gwobr a Gradd Dosbarth Cyntaf i fyfyrwraig hŷn
Mae myfyrwraig hŷn sydd wedi ennill gwobr yn edrych ymlaen at ddyfodol gwell ar ôl graddio gyda gradd dosbarth cyntaf o Brifysgol Bangor.
Mae Wendy Ann Evans, 43 oed, o Fangor, yn graddio yr wythnos hon gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu.
Meddai Wendy, "Rwyf yn teimlo'n gyffrous iawn am raddio ac mae pethau braidd yn swrrealaidd nawr fod popeth drosodd!"
"Gan fy mod yn fyfyriwr hŷn roeddwn yn bryderus iawn na fyddwn yn ffitio i mewn i amgylchedd sydd yn llawn o bobl ifanc, heb sôn am allu cystadlu â’u gwybodaeth gyfrifiadurol. Ond nid oedd angen i mi boeni gan fy mod wedi gwneud ffrindiau da ac rwy'n falch fy mod wedi cael rhannu'r profiad hwn gyda nhw.
"Rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl staff yn yr adran am roi'r cyfle i mi ac am y gefnogaeth a gefais bob cam, yn enwedig gan fy nhiwtor personol, yr Athro Lucy Kuncheva, a fy ngoruchwyliwr traethawd hir, Dr Stephen Marriott. Mae'r profiad hwn wedi profi i mi fy mod yn gallu gwneud unrhyw beth, ac mae wedi fy ngwneud yn fwy hyderus o ran fy sgiliau cyfrifiadurol newydd ac rwy’n edrych ymlaen at y dyfodol.
“Cefais fy ngeni yng Nghaeredin ond rwyf wedi symud o gwmpas llawer ers yn blentyn gan fod fy nhad yn y lluoedd arfog. Trwy’r lluoedd arfog y gwnes i gyfarfod â fy ngŵr ac mae gennym ddau fab sy’n oedolion erbyn hyn. Gan fy mod yn wraig filwrol ac yn symud o gwmpas drwy'r adeg, nid wyf erioed wedi cael y cyfle i gael gyrfa i mi fy hun. Fe wnaethom symud i Fangor yn 2000 a gan fod ein bechgyn wedi cyrraedd oed ysgol uwchradd fe wnaethom benderfynu ymgartrefu yma.
“Roedd cael gwaith yn anodd gan nad oedd gennyf unrhyw gymwysterau ffurfiol felly penderfynais fynd i'r coleg. Mae'n rhaid bod fy nhiwtor wedi meddwl bod gen i botensial a chefais y cyfle i aros ymlaen a gwneud Diploma Uwch mewn Gweithdrefnau Gweinyddol ynghyd â sgiliau cyfrifiadurol eraill ac ECDL.
"Ar ôl dychwelyd i'r gwaith am wyth mlynedd arall roeddwn yn teimlo fy mod angen hwb gyrfaol. Anfonais e-bost at yr Ysgol Cyfrifiadureg a chefais fy ngwahodd i gyfweliad. Nid oeddwn yn disgwyl cael fy nerbyn gan nad oedd gen i unrhyw gymwysterau Safon Uwch, felly cefais sioc ac roeddwn wedi cyffroi pan gefais gynnig lle.
"Roedd cael y Brifysgol ar garreg y drws yn golygu y gallwn dal i fyw gartref wrth astudio. Roedd yn gwneud byd o wahaniaeth bod fy ngŵr a fy meibion yma i fy nghefnogi.
"Fy mhrif uchafbwynt oedd graddio gyda gradd dosbarth cyntaf a oedd yn cadarnhau fy mod wedi gwneud y penderfyniad iawn yn mynd i’r brifysgol. Clywais wedyn fy mod wedi ennill Gwobr Dr Jane Rudall gan yr Ysgol Cyfrifiadureg, am gyflawni cymaint trwy ymdrechu i astudio gyda phenderfyniad. Felly mae hyn yn dangos beth bynnag a ddigwydd i chi yn eich bywyd, os oes gennych agwedd gadarnhaol gallwch ddal wneud yn dda.”
Am y dyfodol, dywedodd Wendy: "Ar ôl cymryd seibiant yn treulio amser gyda fy ngŵr, rwyf yn awr wrthi’n chwilio am waith. Gan fod gen i radd erbyn hyn, rwy’n hyderus y bydd yn agor drysau i gyfleoedd na fyddai wedi bod ar gael i mi fel arall.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013