Gwobr arall i Lety Myfyrwyr Prifysgol Bangor
Mae Neuaddau Preswyl myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi ennill ‘Best Student Halls’ gan ffynhonnell gwybodaeth o bwys i ddarpar fyfyrwyr.
Mae Student Crowd (https://www.studentcrowd.com/) yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fynegi eu barn am adnoddau eu prifysgolion ac i ddarpar fyfyrwyr cael dysgu am y prifysgolion sydd o ddiddordeb iddynt, a hynny drwy leisiau myfyrwyr y prifysgolion eu hunain.
Mae neuaddau’r Brifysgol yn seithfed o blith yr 20 Prifysgol orau yn y DU, o ran darparu llety myfyrwyr, a hyn ar sail 17,929 o adolygiadau llety gan y myfyrwyr eu hunain.
Yn ôl data gan UCAS, y corff sydd yn rheoli ceisiadau i brifysgolion, mae ansawdd y llety yn un o’r deg prif ffactor y mae darpar myfyrwyr yn ei hystyried wrth dderbyn cynnig prifysgol, ac mae neuaddau Prifysgol Bangor ymysg y deg ‘orau o fewn y dosbarth’, gan ddarparu’r math o newydd perswyl sydd yn cwrdd ag anghenion myfyrwyr.
Meddai Deirdre McIntyre, Pennaeth Bywyd Llety yn y Brifysgol:
“Ein nod yw darparu profiad cartref o gartref i’n myfyrwyr, tra’u bod yn byw yn ein Neuaddau Preswyl, gyda chefnogaeth cyfoedion gan Mentoriaid i’w cynorthwyo i setlo i mewn. Mae pob dim wedi ei gynnwys o biliau i aelodaeth gym, i’r rhaglen ‘Bywyd Campws’ helaeth o ddigwyddiadau a theithiau am ddim; rydyn ym ystyried ac yn cynnwys pob agwedd o fywyd cymunedol!
Ychwanegodd:
“Er mwyn bod yn sicr bod gan ein myfyrwyr lais, mae cynrychiolwyr myfyrwyr yn galw yn y fflatiau i holi beth sydd o bwys i’n preswylwyr, ac rydym yn gweithredu ar yr adborth. Mae Bangor yn buddsoddi’r drwm mewn ailwampio, mae’r gofodau byw yn cael eu hadnewyddu’n rheolaidd er mwyn sicrhau bod y profiad ein myfyrwyr yn gadarnhaol o’r cychwyn.”
Mae cynnwys y Brifysgol yn y tabl diweddaraf yn dilyn nifer o wobrwyon eraill a ddyfarnwyd i’r neuaddau yn ddiweddar. Enillodd y Brifysgol tair gwobr yn y National Student Housiing Awards, am y rheolaeth amgylcheddol orau, y rhyngrwyd gorau i fyfyrwyr, a chan lwyddo i sicrhau lefelau bodlonrwydd o 90% neu uwch gyda myfyrwyr rhyngwladol ac ennill marc ansawdd llety rhyngwladol i'r brifysgol hefyd.
Seilliwyd y gwobrahu hyn hefyd ar adborth gan degau o filoedd o fyfyrwyr y DU i arolwg gan Red Brick Research.
Yn ddiweddar, rhoddwyd Prifysgol Bangor yn 10 uchaf prifysgolion anarbenigol y DU hefyd, yn ôl yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol blynyddol diweddaraf.
Dyfarnwyd safon aur hefyd i'r brifysgol yn rownd gyntaf Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu Llywodraeth y DU ac mae'n perfformio'n gyson dda, yn seiliedig ar ymatebion myfyrwyr yn y WhatUni Student Choice Awards.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2018