Gwobr bwysig i ysgolhaig o Fangor
Mae’r Ysgol Llenyddiaeth Saesneg yn falch iawn o gyhoeddi bod yr Athro Emeritws Tom Corns wedi derbyn Cymrodoriaeth yr Academi Brydeinig (FBA).
Bob blwyddyn mae'r Academi Brydeinig yn ethol yn Gymrodyr hyd at 42 o ysgolheigion nodedig o'r DU sydd ennill amlygrwydd yn unrhyw gangen o'r dyniaethau a gwyddorau cymdeithas. Yng ngeiriau'r Academi Brydeinig, mae cymrodyr yn ysgolheigion sydd 'wedi rhagori yn unrhyw un o'r canghennau astudio y mae'r Academi yn eu hyrwyddo.' Y teitl hwn yw'r anrhydedd uchaf y gall ysgolhaig yn y celfyddydau a'r dyniaethau ei gael ym Mhrydain.
Mae'r Athro Corns yn arbenigwr o fri rhyngwladol ar lenyddiaeth Saesneg yr ail ganrif ar bymtheg ac, yn arbennig, mae'n awdurdod blaenllaw ar waith John Milton, awdur y gerdd epig fawr Saesneg, Paradise Lost.
Ymddeolodd yr Athro Corns o ddysgu yn yr Ysgol Llenyddiaeth Saesneg yn 2014, yn dilyn gyrfa ym Mangor lle dringodd o is-ddarlithydd i fod yn Ddirprwy Is-ganghellor. Mae'n parhau i fod yn ymchwilydd gweithgar, gyda galw mawr gartref a thramor am ei wybodaeth a'i arbenigedd. Ar hyn o bryd mae'n gyd-olygydd cyffredinol y Complete Works of Milton newydd gan Wasg Prifysgol Rhydychen.
Meddai Dr Andrew Edwards, Deon Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau, 'Mae hon yn gamp sylweddol ac un sy'n briodol iawn yn cydnabod cyfraniad enfawr yr Athro Corns i'r celfyddydau a gwyddorau cymdeithas
Dyddiad cyhoeddi: 1 Medi 2015