Gwobr Clybiau a Chymdeithasau Gorau i Prifysgol Bangor
Dyfarnwyd Prifysgol Bangor fel y gorau yn y DU ar gyfer Clybiau a Chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUn eleni. Roedd y Brifysgol hefyd yn drydydd yn y DU yn y categori Llety ac yn drydydd yn y DU ar gyfer y Wobr Ryngwladol.
Mae'r anrhydedd diweddaraf yn gymeradwyaeth bellach i le myfyrwyr yng nghalon profiadau allgyrsiol y Brifysgol. Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau yn gwella cyflogadwyedd myfyrwyr, gan roi cyfleoedd iddynt ddatblygu ystod o sgiliau. Mae hefyd yn creu cymunedau a chyfleoedd i rwydweithio.
Mae'r Wobr yn dilyn blwyddyn lwyddiannus arall sydd hefyd wedi gweld y Brifysgol yn y 10 uchaf yn y DU yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol ar gyfer boddhad myfyrwyr a chynnal ei safon Aur yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF) Llywodraeth y DU.
Croesawodd yr Athro Graham Upton, Is-Ganghellor Dros Dro'r Brifysgol, y newyddion gan ddweud:
“Rydw i wrth fy modd bod y Brifysgol wedi derbyn y Wobr hon ac rwy'n falch iawn o'r bartneriaeth rhwng y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr. Mae Prifysgol Bangor yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod nid yn unig yn darparu addysg ragorol ond hefyd yn brofiad prifysgol cyffredinol sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr. Hoffwn ddiolch i'r holl fyfyrwyr am eu cefnogaeth a'u hadborth cadarnhaol. Mae ein myfyrwyr yn gwerthfawrogi eu hamser ym Mhrifysgol Bangor ac mae'n wych gweld bod cynifer yn dewis cymryd rhan mor weithredol ym mywyd y Brifysgol.”
Meddai'r Athro Carol Tully, Dirprwy Is-Ganghellor (Myfyrwyr):
“Mae'n anhygoel gweld ein Clybiau a'n Cymdeithasau yn ennill y wobr hon am y drydedd flwyddyn yn olynol. Mae'n gamp enfawr ac yn dyst i waith caled a brwdfrydedd ein myfyrwyr a'r staff gwych yn Undeb y Myfyrwyr. Mae ein Clybiau a'n Cymdeithasau yn un o'r nifer o bethau sy'n gwneud Bangor mor arbennig. Llongyfarchiadau i bawb sy'n gweithio mor galed i wneud profiad myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor mor wych. ”
Dywedodd Cyfarwyddwr Undeb Myfyrwyr Bangor Mair Rowlands:
“Rydym yn hynod falch ein bod wedi ennill y Clybiau a'r Cymdeithasau gorau a bod y tlws yn dod yn ôl i Brifysgol Bangor am y drydedd flwyddyn yn olynol. Mae gennym dros 200 o wahanol Glybiau a Chymdeithasau ar gyfer myfyrwyr yn Undeb Bangor felly mae rhywbeth i bawb ac maen nhw'n rhad ac am ddim i ymuno. Rydym yn ennill gwobrau fel hyn gan ein bod yn gwrando ar ein myfyrwyr, ac yn gweithio mewn partneriaeth â nhw i sicrhau bod myfyrwyr Bangor yn cael y cyfleoedd gorau posibl. ”
Meddai Simon Emmett, Prif Weithredwr IDP Connect sy'n berchen ar Whatuni:
“Mae canlyniadau cryf eleni yn ddangosydd clir bod myfyrwyr yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r cyfleoedd, y gefnogaeth a'r addysgu a gânt.”
Enwebwyd Prifysgol Bangor ar gyfer Gwobrau yn yr wyth categori canlynol: Prifysgol y Flwyddyn, Llety, Clybiau a Chymdeithasau, Rhyngwladol, Rhoi'n Ôl, Rhagolygon Swyddi, Cefnogaeth i Fyfyrwyr ac Ôl-radd.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Ebrill 2019