Gwobr Fulbright yn gwireddu ymchwil Telyn Deires
Mae myfyrwraig o’r Unol Daleithiau newydd gychwyn ar radd ymchwil ym Mhrifysgol Bangor wedi iddi dderbyn Gwobr Fulbright uchel ei bri.
Kathryn Hockenbury yw deilydd cyntaf Gwobr Prifysgol Bangor Fulbright. Mae’r Wobr yn galluogi myfyrwyr o’r Unol Daleithiau i astudio Gradd Meistr neu flwyddyn gyntaf doethuriaeth ym maes Astudiaethau Celtaidd, Ysgrifennu Creadigol neu Gwyddorau Morol. Fe’i gwnaed yn bosib wrth i Brifysgol Bangor hepgor y ffi a thrwy ddyfarnu lwfans byw gan Gronfa Bangor – cronfa sy’n derbyn rhoddion hael gan raddedigion y Brifysgol.
Cymru oedd yr unig gyrchfan i Kathryn, a doedd unman yn fwy addas iddi ddilyn ei chwrs nag yn Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau, gan mai pwnc gradd Meistr Ymchwil Kathryn yw’r delyn deires Gymreig eiconaidd.
Cyn dod i Fangor, bu Kathryn yn astudio yn Lebanon Valley College, ger Harrisburg, Pennsylvania, ac mae hi’n hanu o Malvern, yn yr un dalaith.
Meddai:
“Gyda’r Brifysgol yn ennill gwobrau am safon y dysgu a chyda phensaernïaeth drawiadol, roedd Bangor yn mynnu fy sylw, ond y prif reswm dros ddewis Bangor oedd er mwyn bod yng nghanol diwylliant dwyieithog sydd yn gefndir i’m ymchwil hanesyddol i ddatblygiad y delyn deires Gymreig. Gydol fy addysg, rwyf wedi chwilio am gyfleoedd i gynnal ymchwil annibynnol sydd yn diwallu fy niddordeb mewn astudio offerynnau a sut y maent yn datblygu dros amser. Rwyf yn ymdrin â’r cwrs Cerddoriaeth MRes gyda’r un brwdfrydedd, gan ei fod yn berffaith ar gyfer archwilio hanes datblygiad offerynnau. Yma ym Mangor mae sawl cyfle i mi ddysgu am y delyn Gymreig a chysylltu gydag athrawon sydd yn rhannu’r un diddordeb.
Yn ystod y bythefnos ddiwethaf, rwyf wedi cael cyfle i gyfarfod â phobl o’r Brifysgol a’r gymuned, sydd wedi bod yn groesawgar ac yn barod i ymgymryd â chyfnewid diwylliannol. Alla’ i ddim diolch digon i Gomisiwn Fulbright a Phrifysgol Bangor am roi i mi'r cyfle i astudio yma. Rwy’n edrych ymlaen at gael cyfrannu at gymdeithasau ac ensemblau, yn ogystal â chwblhau fy ymchwil.”
Cyfarfu Kathryn â’r Athro John G Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor, a ddywedodd:
“Rydym wedi croesawu myfyrwyr ar Raglenni Haf Fulbright ers rhai blynyddoedd bellach. Mae rhain yn denu rhai o’r bobl ifanc mwyaf disglair a thalentog yn yr UDA, ac mae wedi bod yn fraint cael rhannu diwylliant a hanes Cymru gyda hwy. Rwy’n falch iawn ein bod fel sefydliad yn dyfnhau’r berthynas honno, gan wahodd myfyrwraig addawol ifanc i astudio gyda ni am flwyddyn.”
Meddai Sheila O’Neal, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu:
“Mae nifer o blith ein graddedigion yn weithgar yn eu perthynas â’r Brifysgol, ac rydym yn gwerthfawrogi’r holl gyfraniadau maent yn eu gwneud i gefnogi projectau cyfredol yn y Brifysgol. Un project yw hwn ymhlith nifer sy’n enghreifftio sut y gall Cronfa Bangor gefnogi myfyrwyr sydd yn awyddus i astudio ym Mangor.”
Mae Comisiwn Fulbright yn rheoli amrediad o raglenni cyfnewid blaenllaw rhwng yr UDA a gwledydd eraill, gyda’r nod o gynyddu cyd-ddealltwriaeth rhwng dinasyddion yr Unol Daleithiau a dinasyddion gwledydd eraill.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2018