Gwobr gyrfa cynnar o bwys yn cael ei ddyfarnu i fymyrwraig PhD
Myfyriwr PhD o Brifysgol Bangor yw'r ferch gyntaf i ennill gwobr ryngwladol am ei gwaith rhagorol ym maes gwaddodeg môr.
Enillodd Megan Baker WOBR YMCHWIL RICHARD W. FAAS yr International Association of Sedimentologists a gwobr ariannol o €2000. Dyfernir gwobr Faas bob dwy flynedd i ymchwilydd ar ddechrau eu gyrfa. Dyma hefyd y tro cyntaf i'r wobr hon gael ei rhoi i fyfyriwr PhD.
Bydd Megan yn derbyn y Wobr yn 34ain Gynhadledd y Gymdeithas yn Rhufain ym mis Medi 2019. Fe'i gwahoddir hefyd i roi un o'r prif anerchiadau yn y Gynhadledd.
Yn wreiddiol o Poole, Dorset, daeth Megan i Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor i astudio BSc mewn Eigioneg, ac yna MSc mewn Geowyddoniaeth Fôr Gymhwysol. Mae wedi parhau â'i hastudiaethau yn yr Ysgol enwog hon, gan wneud PhD mewn tirlithriadau tanddwr.
Fel gwaddodegydd, mae Megan yn astudio tirlithriadau tanddwr, fel yr un a allai fod wedi achosi'r tsunami diweddar yn Iondonesia. Rydym yn gwybod llawer llai am dirlithriadau tanddwr nag yr ydym am rai sy'n digwydd ar y tir. Gall tirlithriadau tanddwr fod yn hynod rymus a dinistriol a gallant gael effaith enbyd ar brojectau peirianneg ac adeileddau tanddwr, gan gynnwys ceblau cysylltiadau tanddwr sydd yn cynnal y rhyngrwyd. Mae dyddodion y tirlithriadau hyn hefyd yn bwysig iawn ym maes chwilio am olew.
Mae Megan eisoes wedi derbyn gwobr gan y British Sedimentology Research Group am y thesis MSc gorau ym maes gwaddodion ym Mhrifysgolion Prydain ac Iwerddon ac mae hefyd wedi ennill Medal Arian Cwmni'r Brethynwyr. Hon yw'r uchaf o ddwy fedal a ddyfernir gan Gwmni'r Brethynwyr yn flynyddol i fyfyrwyr ymchwil rhagorol ym Mhrifysgol Bangor.
Meddai Megan am ei gwobr ddiweddaraf:
"Mae derbyn gwobr mor bwysig gan sefydliad rhyngwladol yn gyffrous iawn. Rwy'n teimlo fy mod wedi cael anrhydedd arbennig iawn gan mai gwyddonwyr o bwyllgor yr International Association of Sedimentologists sy'n penderfynu pwy gaiff y wobr."
Meddai Megan am ei phrofiad yn y Brifysgol:
"Fe wnes i ddewis Bangor oherwydd enw da yr Ysgol Gwyddorau Eigion a'i lleoliad gwych, sy'n ardderchog ar gyfer gwaith maes a gweithgareddau awyr agored allgyrsiol. Mae gan yr adran awyrgylch mor gyfeillgar, yr ydych ei wirioneddol werthfawrogi fel myfyriwr, gan fod y staff bob amser wrth law i helpu. Dwi'n credu mai dyna pam nad ydw i wedi llwyddo i adael eto!"
Ychwanegodd:
"Ar ôl fy PhD, hoffwn aros yn y byd academaidd a chael swydd ymchwil ôl-ddoethurol. Rwyf wrth fy modd gydag awyrgylch ysgogol y byd academaidd a sut y gellwch fod yn gwneud rhywbeth gwahanol bob dydd. "
Meddai Jaco Baas, goruchwyliwr PhD Megan, a'i henwebodd am y wobr:
“Mae Megan yn llwyr haeddu'r wobr gan yr International Association of Sedimentologists. Mae ei gwaith ar effaith clai gludiog ar symudiad tirlithriadau tanddwr yn newydd ac yn bwysig. Drwy cyfuno dulliau ffisegol a daearegol yn y maes ac yn y labordy, mae ei chanlyniadau wedi bod yn destun diddordeb mawr yn y byd academaidd a diwydiant.”
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2019