Gwobr nodedig yr Academi Brydeinig i ddarlithydd Bangor
Mae'r darlithydd o Brifysgol Bangor, Dr Helena Miguélez-Carballeira, o'r Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern, wedi derbyn bron i £90,000 i gynnal project a fyddai'n cyflwyno achos dros astudio diwylliant a gwleidyddiaeth gyfoes Sbaen o safbwynt ôl-wladychol.
Mae llwyddiant Dr Helena Miguélez-Carballeira wedi dod yn wyneb cystadleuaeth gref iawn: Cyflwynwyd 323 o geisiadau, ac mae'r Academi Brydeinig wedi gallu cynnig 35 o grantiau'n unig, sef gyfradd lwyddiant o ychydig dan 11%.
Gan ganolbwyntio ar gwestiynau'n ymwneud ag ymarfer hanesyddol, cynrychioli hunaniaethau cenedlaethol a gorthrwm gwleidyddol a diwylliannol, mae project Dr Miguélez-Carballeira yn ceisio meithrin dealltwriaeth newydd o Sbaen gyfoes drwy weld y wlad fel enghraifft o wrthdaro ôl-wladychol. Bydd ei phroject yn ymwneud â gwleidyddiaeth genedlaethol fewnol yn Sbaen gyfoes ar adeg pan mae teimlad pro-annibyniaeth mewn cenhedloedd is-wladwriaeth fel Catalonia a Gwlad y Basg yn cynyddu.
Dywedodd Pennaeth yr Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern, Dr Jonathan Ervine, bod derbyn Cymrodoriaeth Ganol Gyrfa'r Academi Brydeinig yn gyfystyr â "ffurf llawn bri a haeddiannol iawn o gydnabyddiaeth ar gyfer ymchwil arloesol Dr Miguélez-Carballeira". Ychwanegodd ei fod yn "enghraifft wych o'r diwylliant ymchwil deinamig sy'n bodoli ym Mhrifysgol Bangor o fewn Astudiaethau Sbaenaidd a'r Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern yn gyffredinol".
Mae Dr Miguélez-Carballeira wedi cyhoeddi'n eang ar wrthdaro cenedlaethol mewnol Sbaen. Mae'r cyfieithiad o'i monograff o'r Galiseg i Bortiwgaleg, Galician, a Sentimental Nation, wedi parhau'n un o'r llyfrau ffeithiol sy'n gwerthu orau yng Ngalisia ers ei gyhoeddi.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2015