Gwobr Rhydychen i Athro o Fangor
Mae Tony Bushell, Athro Almaeneg yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ym Mangor, wedi ennill ysgoloriaeth o fri ar gyfer ymwelydd, gan Goleg Sant Ioan, Rhydychen, i gwblhau astudiaeth yn ymwneud â rhethreg hunaniaeth Awstriaidd. Dywedodd yr Athro Bushell y byddai ei astudiaeth yn ceisio dangos y graddau y mae’r Awstria ôl-weriniaethol er 1945 wedi ymdrechu i sefydlu ymdeimlad o’i harwahanrwydd, gan droi’n ôl yn aml at ei hetifeddiaeth imperialaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Ebrill 2012