Gwobr Rhyngwladoli i Manuela
Derbyniodd aelod staff ymroddedig o Ganolfan Addysg Ryngwladol Prifysgol Bangor wobr mewn seremoni Gwobrau Rhyngwladoli yn ddiweddar.
Daeth Manuela Vittori, Swyddog Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol, yn drydydd yng Ngwobrau Rhyngwladoli Cyngor Materion Rhyngwladol Myfyrwyr UCM y DU a gynhaliwyd yn Uwchgynhadledd Integreiddio Warwick. Bwriad y gwobrau yw cydnabod y gwaith caled mae undebau myfyrwyr, sefydliadau, swyddogion a myfyrwyr yn ei wneud yn cefnogi myfyrwyr rhyngwladol a gwella eu profiad.
Dywedodd Manuela, sydd wedi gweithio yn y Ganolfan Addysg Ryngwladol am bedair blynedd: "Rwy'n hapus ac yn falch iawn o fod wedi derbyn y wobr hon, ac o gynrychioli Bangor a Chymru yn y digwyddiad nodedig hwn. Hoffwn ddiolch i'm cydweithwyr i gyd yn y Ganolfan Addysg Ryngwladol sydd hefyd yn gweithio'n galed iawn i gefnogi ein myfyrwyr Rhyngwladol, gan wneud eu profiad fel myfyrwyr yn un bythgofiadwy. Mae Bangor yn cynnig addysgu o'r radd flaenaf, tirlun godidog a gwasanaethau cefnogi eithriadol sy'n golygu ei fod yn lle bendigedig i weithio ac astudio."
Dywedodd Alan Edwards, Pennaeth Gwasanaethau Myfyrwyr Rhyngwladol: "Rydym yn hynod o hapus yn y Ganolfan Addysg Ryngwladol bod Manuela wedi cyrraedd y rhestr fer ac wedi mynd ymlaen i dderbyn gwobr. Bangor oedd yr unig Brifysgol o Gymru i gyrraedd y rhestr fer ac mae'n gydnabyddiaeth o'r gwaith da mae Manuela a'i chydweithwyr yn ei wneud yn y Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol yn rhoi cymorth a chefnogaeth i fyfyrwyr rhyngwladol i gynefino â bywyd mewn gwlad newydd."
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mai 2014