Gwobr Syr Geraint Evans yn cydnabod cyfraniad darlithydd a chyfansoddwr
Cyflwynwyd Gwobr Syr Geraint Evans Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru i Dr Guto Pryderi Puw, o Brifysgol Bangor, i gydnabod ei gyfraniad i gerddoriaeth yng Nghymru, fel cyfansoddwr, darlithydd a Chyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gerdd Newydd Bangor yn ddiweddar (30 Tachwedd 2014) yng Nghlwb Caerdydd a’r Sir.
Dywed Guto: “Roedd yn fraint o’r mwyaf derbyn y wobr hon ac yn deimlad mor braf sylweddoli bod fy nghyfoedion o fewn y byd cerddorol yn gwerthfawrogi fy ymdrechion. Rwy’n teimlo mor lwcus fy mod yn medru treulio gymaint o’m hamser yn gwneud yr hyn rwy’n ymddiddori gymaint ynddo, sef cerddoriaeth – boed fel cyfansoddwr, darlithydd neu yn rhan o dîm gweithgar Gŵyl Gerdd Newydd Bangor. Yn sicr byddaf yn trysori’r wobr hon am flynyddoedd i ddod.”
Ar ran y Gymdeithas dywed Dr Jeremy Huw Williams, ‘Fel un sydd wedi comisiynu nifer o weithiau newydd gan Guto, ac wedi perfformio sawl tro yng Ngŵyl Gerdd Newydd Bangor, bu’n fraint i mi gyflwyno Gwobr Syr Geraint Evans 2013 iddo ar ran Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru’.
Dros y blynyddoedd gwnaeth Guto ei farc yn genedlaethol a rhyngwladol fel un o brif gyfansoddwyr ei genhedlaeth: fe’i penodwyd fel y Cyfansoddwr Preswyl cyntaf gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn 2006 a derbyniodd ei Goncerto ar gyfer Obo Wobr y Cyfansoddwr Prydeinig yn 2007. Cafodd amryw o’i gyfansoddiadau eu cynnwys mewn gwyliau cenedlaethol ynghyd a chyngherddau dramor yn yr Unol Daleithau a’r Eidal. Eleni fe berfformiodd Cantorion Prifysgol Bangor ei Dair Cerdd Dylan Thomas yn ystod yr ŵyl ‘My Friend Dylan Thomas’ ym Mhrifysgol Bangor, ac yn gynharach yn y flwyddyn rhyddhawyd y CD Reservoirs sy’n cynnwys ei gyfansoddiadau cerddorfaol ar y label Signum Records. Ar hyn o bryd mae Guto’n gweithio ar ei gomisiwn operatig cyntaf Y Tŵr (comisiwn Theatr Gerdd Cymru) ar gyfer ei pherfformio gan Theatr Gerdd Cymru yn Pontio yn ystod gwanwyn 2017.
Sefydlwyd Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru er mwyn hybu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o gerddoriaeth gan gyfansoddwyr Cymreig yn ogystal â chyfansoddwyr sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru.
Mae’r Gymdeithas hefyd yn annog lefel uchel o ymarfer perfformio gan feithrin ymwybyddiaeth a fydd yn arsylwi ar faterion proffesiynol yng Nghymru; i’r perwyl hwn bydd yn annog perfformwyr a cherddoregwyr i ymddiddori yng ngwaith y Gymdeithas.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Rhagfyr 2014