Gwobrau Arwain Cymru 2015
Llongyfarchiadau i Sandra Begley, Cydlynydd Academaidd prosiect Elevate, sydd wedi ennill 'tra gymeradwyaeth' yng nghategori 'Arweinyddiaeth ar gyfer y Dyfodol', Gwobrau Arwain Cymru 2015.
Enwebwyd Sandra gan ddwy o'i thîm dysgu am y gwaith rhagorol mae hi wedi cyflawni yn ystod y prosiect, yn ysbrydoli tiwtoriaid a dysgwyr, gan sicrhau profiadau o'r ansawdd orau. Gwnaeth arholwr allanol y rhaglen Dr Rob Payne, cyfarwyddwr UHOVI ym Mhrifysgol De Cymru, nodi bod gwaith y tîm..
"..yn nhermau cynnal prosiect dysgu-yn-y-gweithle, mae hwn wedi bod yn enghraifft batrymol o safbwynt ansawdd academaidd a phrofiad myfyrwyr...oedd yn cynnwys [sic].. asesu arloesol lled berthnasol i fusnesau'r dysgwyr sydd wedi bod o ddefnydd real a phwrpasol"
Mae Dysgu Gydol Oes yn golygu prif ffrydio a datblygu elfennau o'r prosiect yn rhan o'i gynnig dysgu yn y dyfodol, wrth i adnoddau caniatáu, i adlewyrchu nod Llywodraeth Cymru i ffocysu ar
"....datblygiad a darparieth tolciau byr o ddysgu sy'n cyrraedd anghenion canfyddedig cyflogwyr... cynnal anghenion sgiliau Cymru..ac yn...atgyfnerthu darpariaeth ran-amser ac olraddadwy Cymru;"
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2015