Gwobrau Caffael Cenedlaethol 2016: Cyngor Gwynedd yn ennill gwobr am Fuddion Cymunedol
Yn ystod y Gwobrau Caffael Cenedlaethol Cymru 2016 a chafwyd eu cynnal gan Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor a’i Sefydliad Cystadleuaeth ac Astudiaethau Caffael yn ddiweddar, fe enillodd Cyngor Gwynedd y Wobr Genedlaethol am Fuddion Cymunedol.
Dyfarnwyd y wobr i Uned Strategaeth Polisi Tai y Cyngor mewn cydnabyddiaeth o’i weithrediad o Bolisi Buddion Cymunedol Llywodraeth Cymru drwy ei brosiectau adeiladwaith yng Ngogledd Cymru.
Fe oedd y panel beirniaid yn cydnabod ymdrechion Cyngor Gwynedd i ddefnyddio cymalau cymdeithasol yn y prosiectau adeiladwaith, fel peirianwaith llwyddiannus i gyflawni gwerth ychwanegol, ac ennill buddion cymunedol i bobl Gwynedd. Mewn ymdrech arloesol i ddyblygu’r ddull yma ar draws feysydd gwasanaethau eraill y Cyngor, fe lwyddodd yr Uned Strategaeth Polisi Tai Cyngor i gwblhau cynnig cyfalaf i wella effeithlonrwydd ynni o fewn eiddo’r Cyngor, ac hefyd i daclo tlodi tanwydd drwy Gynllun Cartrefi Clyd. Drwy wneud hyn, mae Cyngor Gwynedd wedi ychwanegu gwerth, drwy fuddion cymunedol, i un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Gwynedd, sef Ward Peblig yng Nghaernarfon. Mae’r ward wedi ei lleoli o fewn 6% o’r llefydd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Mae’r Cyngor wedi gosod allan defnydd penodedig o’r cymalau cymdeithasol fel angen sylfaenol, ac mae’r cymal yma yn y tendr yn galluogi’r Cyngor i gyflawni nifer o fuddion a gafodd eu cyflawni gan enillwyr y contract, Wilmott Dickson Energy Services. Er enghraifft, mae rhai o’r buddion yn cynnwys sicrhau fod pobl di-waith yn cael eu hyfforddi i brentisio, a phan oedd y prosiect yn gorffen, yna fe oeddent yn cael hyfforddiant allweddol a chymwysterau i’w galluogi i fod yn barod am waith, fel bod hyn yn atyniad cyflogadwyedd deniadol i gyflogwyr, wrth iddynt fynd ati i chwilio am swyddi newydd. Mae’r prosiect wedi sicrhau canlyniad cadarnhaol, ac mae’r holl brentisiaid yn awr mewn swyddi llawn amser.
Yn eu hadborth, dywed beirniaid Gwobrau Caffael Cenedlaethol Cymru:
“Mae’r cyflwyniad yn dangos mai yr allwedd cyntaf i lwyddiant yw dechrau efo gwerthoedd craidd. Mae’r ddull yma wedi galluogi i nod Cyngor Gwynedd gael ei fewnblannu drwy’r system gaffael. Mae’r ffocws ar ddiwylliant fel grym i yrru hyn yn ei flaen, ac mae’n adfywiol iawn i’w weld. Mae gwneud y pobl – y tenantiaid, eu cymunedau, a’r staff sydd yn cael y canlyniadau – yn flaenoriaeth, yn hytrach na chanolbwyntio ar y offer sydd yn cael ei ddefnyddio, ac fe ddylai’r ffordd yma o weithredu gael ei fabwysiadu ym mhob man.”
Wrth groesawu llwyddiant Cyngor Gwynedd yn ennill y wobr genedlaethol am weithredu Buddion Cymunedol yn eu prosesau caffael, dywedodd yr Athro Dermot Cahill, Cadeirydd y Beirniaid a Phennaeth Ysgol y Gyfraith Bangor, yn y noson wobrwyo:
“Mae Buddion Cymunedol yn esiampl o bolisi caffael Llywodraeth Cymru sydd yn awr wedi ei fabwysiadu yn eang gan y sector gyhoeddus Gymreig, er budd y busnesau yng Nghymru, a phobl Cymru. Mae’n esiampl o bolisi sydd wedi cael llawer o feddwl, ac sydd, dros nifer o flynyddoedd, wedi cael ei fabwysiadu mewn defnydd eang yn nhendrau’r sector gyhoeddus ar draws nifer o feysydd yn y sector gyhoeddus Gymreig. Mae wedi ei ddylunio i sicrhau, hyd yn oed ar ôl i’r cytundeb cyhoeddus gael ei gwblhau, fod, yn aml, fuddion etifeddol yn aros o fewn cymunedau i hyrwyddo cyflogadwyedd a chydlyniad cymdeithasol. Dylai Cyngor Gwynedd gael ei longyfarch am ei lwyddiant.”
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mehefin 2016