Gwobrau Caffael Cenedlaethol 2016: Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ennill gwobr am gaffael electroneg
Yng Ngwobrau Caffael Cenedlaethol 2016, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar gan Sefydliad Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael Ysgol y Gyfraith Bangor, fe dderbyniodd RCT Homes y wobr am Gaffael Electroneg.
Sefydlwyd RCT Homes Ltd yn 2007 fel cymdeithas dai gymdeithasol gydfuddiannol ar gyfer trosglwyddiad tai cymdeithasol o eiddo Cyngor Sir Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf. Yn un o’r cymdeithasau tai mwyaf yng Nghymru, gyda stoc o dros 10,000 o dai ar rent (yn cynnwys 740 dan gynllun tai gwarchod), mae RCT wedi cael y wobr yma am ei gynnydd mewn rhedeg ocsiynau electroneg fel ffordd o gael gwared o eiddo nad oedd yn cael ei ddefnyddio. Beth oedd yn hynod arwyddocaol oedd yr adborth cadarnhaol oddi wrth gynigwyr. Fe oeddent yn teimlo fod y cynllun yn gyfeillgar i’r defnyddwyr, ac hefyd yn ffordd gost-effeithiol o werthu mewn cymhariaeth â defnyddio tŷ ocsiwn traddodiadol. Fe oedd y prosiect angen tîm efo sgiliau croes-weithredol, ynghyd â chyswllt efo partneriaid allanol, ac yn ymglymu tîm caffael RCT, tîm rheoli asedau, gwerthwr tai lleol, tîm prydleswyr, a platfform tendr electroneg Cymru, gyda hostia Bravo Solutions, i redeg yr ocsiwn electroneg.
Beth oedd wedi creu argraff ar y beirniaid oedd y lefel o arloesedd a gafwyd drwy ddefnyddio ocsiwn electroneg, ac fe oeddent yn cymeradwyo defnydd caffael electroneg yn y sefyllfa newydd yma. Yn ogystal, fe oeddent yn hoff o ddimensiwn “meddwl y tu allan i’r bocs” oedd yn perthyn i’r prosiect, ac yn dweud bod hyn yn arwain tuag at ddefnydd eang o ocsiynau electroneg a chaffael electroneg yn y sector cyhoeddus Cymreig.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2016