Gwobrau dysgu dan arweiniad myfyrwyr 2012
Daeth dros ddau gant o fyfyrwyr, cynrychiolwyr cyrsiau a staff y Brifysgol at ei gilydd yn ddiweddar i ddathlu Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr, y cyntaf i’w gynnal ym Mangor.
Gwnaed cais llwyddiannus gan Undeb Myfyrwyr Bangor am gyllid i gymryd rhan mewn cynllun peilot a gefnogir gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS) a'r Academi Addysg Uwch (AAU).
"Pan welsom y project yn cael ei hysbysebu, roeddem yn meddwl ei fod yn syniad gwych," meddai Danielle Buckley, Is-lywydd Addysg a Lles yn Undeb Myfyrwyr Bangor.
"Un o nodweddion cryf ein cais oedd ein bod eisiau rhedeg y fenter hon mewn partneriaeth â'r Brifysgol ac roeddem wrth ein boddau gyda’r ymateb cadarnhaol a dderbyniwyd, yn gyntaf gan yr Athro Colin Baker a’r Athro Carol Tully, ac yna gan yr Ysgolion Academaidd a’r myfyrwyr."
Roedd cais Bangor yn un o 21 o geisiadau project llwyddiannus ledled y wlad, ac ariannwyd y gwobrau yn rhannol drwy'r bartneriaeth UCM/AAU ac arian cyfatebol gan Brifysgol Bangor.
"Roeddem eisiau i’r gwobrau fod yn llwyr dan arweiniad y myfyrwyr," eglurodd Danielle "felly sefydlwyd grŵp llywio ar gyfer y project a gwahoddwyd cynrychiolwyr cyrsiau i fod yn aelodau ohono. Penderfynodd y grŵp ar y gwobrau, y meini prawf ac yn y pen draw - yr enillwyr. Roedd yn anodd iawn dewis enillwyr oherwydd roedd safon yr enwebiadau mor uchel. Roedd y myfyrwyr yn teimlo’n angerddol iawn ynglŷn â’r addysg a’r gefnogaeth ragorol".
Cyflwynwyd dros 300 o wahanol enwebiadau gan fyfyrwyr ar ran 180 aelod staff gwahanol a oedd yn cynrychioli pob un o Ysgolion Academaidd y Brifysgol. Cynhaliwyd y broses enwebu ar-lein drwy wefan Undeb y Myfyrwyr, yn bangorstudents.com, ac roedd rhestr lawn o gategorïau’r gwobrau, y meini prawf a’r enillwyr ar gael ar y wefan.
Gwahoddwyd pob aelod staff oedd ar y rhestr fer i'r cinio gwobrwyo a chyflwynwyd tystysgrif a mwg iddynt i gydnabod eu cyflawniad. Hefyd, derbyniodd yr enillydd ym mhob categori dlws gwydr, a gyflwynwyd gan yr Athro Colin Baker, y Dirprwy Is-ganghellor dros Addysgu a Dysgu.
"Roedd y gymeradwyaeth uchel, y gwerthfawrogiad cynnes a’r mwynhad yn gwneud y digwyddiad hwn ar gyfer myfyrwyr a staff yn Neuadd PJ yn ddigwyddiad cofiadwy i bawb," meddai’r Athro Colin Baker.
Mae'r holl arwyddion yn awgrymu y bydd y gefnogaeth gan yr UCM/Academi Addysg Uwch yn parhau ac mae Undeb y Myfyrwyr eisoes wedi dechrau cynllunio ar gyfer cynnal y gwobrau eto'r flwyddyn nesaf. Disgwylir i’r project hwn dyfu a thyfu.
"Mae Undeb y Myfyrwyr wedi sicrhau llwyddiant y digwyddiad arloesol hwn. Cafodd ei groesawu mor dda gan fyfyrwyr a staff fel y bydd rhaid ei wneud yn ddigwyddiad blynyddol am ddegawdau i ddod," meddai’r Athro Carol Tully.
Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr 2012: Yr enillwyr
Gwobr Cefnogaeth Fugeiliol Eithriadol:
Y Parchedig Kenneth Padley
Gwobr Hyrwyddo Addysg Cyfrwng Cymraeg:
Mr Elwyn Hughes, Pennaeth Uned Cymraeg i Oedolion, Ysgol Dysgu Gydol Oes
Gwobr Rhyngwladol:
MS Manuela Vittori, Swyddog Lles, Lles Myfyrwyr Rhyngwladol
Gwobr Gwyrdd:
Mr Ricky Carter, Swyddog Amgylcheddol, Adran Ystadau
Goruchwyliwr Traethawd Hir y Flwyddyn:
Yr Athro Helen Wilcox - Athro Saesneg, Ysgol y Saesneg
Gwobr Arloesedd:
Dr Jesse Martin, Uwch Ddarlithydd, Ysgol Seicoleg
Aelod Staff Cefnogi’r Flwyddyn:
Paul Kennedy, Swyddog Ymchwil, Ysgol Gwyddorau Eigion
Gwobr Adrannau Gwasanaeth:
Canolfan Dyslecsia Miles
Athrawes Ôl-radd y Flwyddyn:
Ms Sian Beidas, Ysgol Ieithoedd Modern
Athro Ôl-radd y Flwyddyn:
Yr Athro Jerry Hunter, Athro'r Gymraeg, Ysgol y Gymraeg
Athro Newydd y Flwyddyn:
Dr Andy Webb, Darlithydd mewn Saesneg, Ysgol Saesneg
Athrawes y Flwyddyn:
Dr Fay Short, Darlithydd, Ysgol Seicoleg
Amddiffynnydd Cydraddoldeb a Rhyddid:
Dr James Intriligator, Uwch-ddarlithydd, Ysgol Seicoleg
Gwobr am Gyfraniad Eithriadol:
Ms Steph Barbaresi, Cofrestrydd Cynorthwyol, y Gofrestrfa Academaidd
Gwobr am Gyfraniad Eithriadol:
Ms Hazel Frost, Cynorthwy-ydd Clerigol, Ysgol Seicoleg
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mai 2012