Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr 2013
Cynhaliodd Undeb Myfyrwyr Bangor y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr ynghyd â Gwobrau'r Cynrychiolwyr Cwrs yn ddiweddar yn Neuadd PJ, a hynny am yr ail flwyddyn.
Rhoddwyd y cyfle i fyfyrwyr enwebu unrhyw aelod o staff mewn ystod o gategorïau'n amrywio o "Aelod Staff Cefnogi'r Flwyddyn" i "Athro'r Flwyddyn" a derbyniwyd ymron i 300 o enwebiadau, yn pontio'r holl ystod o safleoedd staff ac adrannau.
Dywedodd Shôn Prebble, Is-lywydd Addysg a Lles Undeb Myfyrwyr Bangor: "Mae hwn yn gyfle gwych i fyfyrwyr gydnabod ymroddiad a gwaith caled y staff ym Mangor at wella eu profiad fel myfyrwyr. Mae'n gyfle i ddweud diolch. Cawsom enwebiadau gan bob un Ysgol yn ogystal â'r rhan fwyaf o adrannau gwasanaeth, ac roedd yn waith caled iawn i'r panel myfyrwyr ddewis rhai o'r enillwyr o'r rhestr fer."
Dywedodd yr Athro Carol Tully, Dirprwy Is-Ganghellor: "Mae'r Gwobrau Dysgu wedi bod yn llwyddiant enfawr eto eleni ac maent yn pwysleisio'r gwaith aruthrol a wneir gan aelodau’r staff drwy'r brifysgol. Roedd yr enwebiadau'n deimladwy ac yn ysbrydoliaeth ac roedd yn hyfryd gweld cymaint o bobl yn cael eu cydnabod am eu gwaith rhagorol."
Llongyfarchiadau i enillwyr hynod deilwng 2013:
Cynrychiolydd Cwrs y Flwyddyn
Nerys MacDonald (Yr Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg)
Gwobr Arloesi
Dr Pedro Telles (Ysgol y Gyfraith)
Gwobr am Hyrwyddo Addysg Cyfrwng-Cymraeg
Ms Sian Beidas (Ysgol Ieithoedd Modern)
Gwobr Ryngwladol
Ms Manuela Vittori (Canolfan Addysg Ryngwladol)
Gwobr Adborth Ardderchog
Ms R. Lyle Skains (Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau)
Gwobr Bywiogi Dysgu
Mr Nigel Brown (Ysgol Gwyddorau Biolegol)
Gwobr Cefnogaeth Fugeiliol Eithriadol
Mrs Gillian Griffith (Ysgol Cerddoriaeth)
Goruchwyliwr Traethawd Hir y Flwyddyn
Yr Athro Judy Hutchings (Ysgol Seicoleg)
Gwobr Ymgysylltu â Myfyrwyr
Dr Chris Collins (Ysgol Cerddoriaeth)
Gwobr Adran - Gwasanaeth i Fyfyrwyr
Uned Cymorth Ariannol (Gwasanaethau Myfyrwyr)
Aelod Staff Cefnogi'r Flwyddyn
Mrs Liz du Pre (Canolfan Dyslecsia Miles)
Athro Ôl-radd y Flwyddyn
Mr Stephen Clear (Ysgol y Gyfraith)
Gwobr am Gyrhaeddiad Eithriadol
Dr David Evans (Ysgol Cerddoriaeth) - derbyniwyd wedi ei farw gan ei fab
Athro Newydd y Flwyddyn
Ms Thandiwe Gilder (Ysgol Seicoleg)
Athro'r Flwyddyn
Dr Lucy Huskinson (Ysgol Athroniaeth a Chrefydd)
Lluniau o'r noson i'w gweld yma.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mai 2013