Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr 2014
Cynhaliodd Undeb Myfyrwyr Bangor y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr ynghyd â Gwobrau'r Cynrychiolwyr Cwrs yn ddiweddar yn Neuadd PJ, a hynny am y drydedd flwyddyn.
Rhoddwyd y cyfle i fyfyrwyr enwebu unrhyw aelod o staff mewn ystod o gategorïau'n amrywio o "Aelod Staff Cefnogi'r Flwyddyn" i "Athro'r Flwyddyn" a derbyniwyd ymron i 300 o enwebiadau, yn pontio'r holl ystod o safleoedd staff ac adrannau.
Dywedodd Rhys Taylor, Is-lywydd Addysg a Lles Undeb Myfyrwyr Bangor: "Mae hwn yn gyfle gwych i fyfyrwyr gydnabod ymroddiad a gwaith caled y staff ym Mangor at wella eu profiad fel myfyrwyr. Mae'n gyfle i ddweud diolch. Cawsom enwebiadau gan bob un Ysgol yn ogystal â'r rhan fwyaf o adrannau gwasanaeth, ac roedd yn waith caled iawn i'r panel myfyrwyr ddewis rhai o'r enillwyr o'r rhestr fer."
Dywedodd yr Athro Carol Tully, Dirprwy Is-Ganghellor: "Mae’n wych gweld cymaint o enwau gwahanol yn codi blwyddyn ar ôl blwyddyn a gweld mor angerddol yw myfyrwyr am eu profiadau addysgu a dysgu. Mae'r Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr yn ddigwyddiad sydd wedi sefydlu ei hun yn gyflym iawn ar galendr y Brifysgol ac mae UM yn hynod o awyddus i sicrhau bod y project hwn yn parhau i dyfu. Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr a diolch enfawr i banel myfyrwyr y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr; ni allem fod wedi cynnal y Gwobrau hebddynt."
Llongyfarchiadau i enillwyr hynod deilwng 2014:
Gwobr Cefnogaeth Fugeiliol Eithriadol: Sian Pierce, Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth
Gwobr am Hyrwyddo Addysg Cyfrwng-Cymraeg: Peredur Webb-Davies, Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg
Goruchwylydd Traethawd Hir/Thesis y Flwyddyn: Martina Feilzer, Ysgol Gwyddorau Cymdeithas
Gwobr Adborth Ardderchog: Gwyn Ellis, Ysgol Addysg
Gwobr Arloesi: Lynda Yorke, Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth
Gwobr Ryngwladol: Monalisa Odibo, Warden a Chanolfan Addysg Ryngwladol
Athro Newydd y Flwyddyn Farhaan Wali, Ysgol Athroniaeth a Chrefydd
Gwobr Agored: Gavan Cooke, Ysgol Gwyddorau Biolegol
Athro Ôl-radd y Flwyddyn: Sarah Cooper, Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg
Gwobr Adrannau Gwasanaeth i Fyfyrwyr: Gwasanaeth Cwnsela
Aelod o Staff/Tîm Cefnogi’r Flwyddyn: Sian Lewis, Ysgol Seicoleg
Gwobr Meddwl yn Gynaliadwy: Helen Gittins, James Walmsley a Nicola Owen, Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth
Athro/Athrawes y Flwyddyn: Mari Wiliam, Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg
Mae lluniau o’r noson i’w gweld yma.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2014