Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr 2020
Er na chynhaliwyd dathliad eleni, mae’n bleser gan Undeb y Myfyrwyr eu bod wedi cyhoeddi enillwyr y GDDAM.
Trefnir y digwyddiad gan Undeb y Myfyrwyr ac mae'r Gwobrau Addysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddangos eu cefnogaeth a'u gwerthfawrogiad o'r staff sydd wedi gweithio’n galed a dangos ymroddiad drwy gydol cyfnod y myfyrwyr ym Mangor. Dewisiwyd enillwyr eleni allan o dros 500 enwebiad gan banel o fyfyrwyr.
Alyson Moyes, Ysgol Gwyddorau Meddygol enillodd Gwobr Athro/Athrawes y Flwyddyn.
Meddai Alyson: "Rwy'n wirioneddol diymhongar i dderbyn Gwobr Athrawes y Flwyddyn eleni, fel y pleidleisiwyd gan y corff myfyrwyr yma ym Mhrifysgol Bangor. Rwy'n ddiolchgar i'r holl fyfyrwyr a roddodd eu hamser i'm henwebu. Rwy'n teimlo'n freintiedig i allu gwneud swydd rwy’n ei charu bob dydd, wedi'i hamgylchynu gan dîm o gydweithwyr talentog a chefnogol. Rwy'n gobeithio bod y myfyrwyr ein hadran yn mwynhau eu hamser gyda ni mor gymaint ac yr ydwyf i hyd yn hyn. Mae gennym ni i gyd lawer i'w ddysgu, ond alla i ddim meddwl am le gwell i wneud hynny."
Nododd un o’r enwebiadau ar gyfer Alyson: “Mae ei ddarlithoedd yn ardderchog, yn ennyn diddordeb mywyrsyn yn gyson, ac mae’n cynnig cefnogaeth ragorol. Mae’n oruchwyliwr traethawd hir i mi, ac mae hi wedi cynnig adborth ardderchog, ac wedi lleihau straed yr holl broses.”
Dywedodd Harry Riley, Is-Lywydd dros Addysg am y flwyddyn academaidd 2019-20: “Er na chawsom gynnal noson wobrwyo’r Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr eleni, credwn ei bod yn bwysig gwobrwyo ein staff anhygoel. Llongyfarchiadau i bawb gafodd eu henwebu, a gyrhaeddodd y rhestr fer, ac i enillwyr y gwobrau. Roedd hi’n wych gweld cymaint o staff yn cael eu henwebu ac yn cael eu cydnabod eleni!”
Dywedodd yr Athro Iwan Davies, Is-Ganghellor: "Mae'r Gwobrau Addysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr y Brifysgol. Er nad ydym wedi gallu dathlu gyda’n gilydd eleni, rwy'n ddiolchgar i Undeb Bangor am eu gwaith caled o drefnu'r gwobrwyon. Mae cael eich rhoi ar y rhestr fer ar gyfer gwobr, neu dderbyn gwobr yn anrhydedd gan ei fod yn adlewyrchu gwerthfawrogiad y rhai sydd wedi elwa o gymorth addysgu a dysgu. Mae Prifysgol Bangor yn lwcus i gael cymaint o unigolion ymroddedig sy'n gweithio mor galed er mwyn sicrhau fod ein myfyrwyr yn cael profiadau gwerth chweil. Llongyfarchiadau gwresog i bawb a gafodd enwebiad ac i'r rhai sydd wedi derbyn gwobr."
Hoffai Undeb y Myfyrwyr gymryd y cyfle yma i longyfarch ac i ddiolch i bob aelod o Staff Prifysgol Bangor am eu gwaith ardderchog trwy gydol y flwyddyn, ac am gamu i her COVID-19.
Llongyfarchiadau i’r enillwyr haeddiannol iawn yn 2020:
Athro/Athrawes y Flwyddyn - Alyson Moyes,Ysgol Gwyddorau Meddygol
Addysg Trwy Gyfrwng y Gymraeg - Rhian Tomos, Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol
Arwr Heb Ei Gydnabod - Merf Williams, Ysgol Gwyddorau Meddygol
Gwobr Ennyn Diddordeb Myfyrwyr - Sarah Zylinski, Ysgol Gwyddorau Eigion
Ysgol y Flwyddyn - Ysgol Seicoleg
Athro Ôl-radd y Flwyddyn - Martina Codice, Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth
Aelod Staff Cefnogaeth Di-Academaidd y Flwyddyn - Marcel Clusa Ferrand, Canolfan Addysg Rhyngwladol
Athro Newydd Y Flwyddyn - Gwyndaf Roberts, Ysgol Gwyddorau Meddygol
Gwobr Rhyngwladol - Noor Al-Zubaidi, Canolfan Addysg Rhyngwladol
Goruchwyliwr Traethawd Hir Y Flwyddyn - Nat Fenner, Ysgol Gwyddorau Naturiol
Aelod Staff Cefnogaeth Academaidd - Jenny Byast, Ysgol Gwyddorau Meddygol
Cefnogaeth Fugeiliol Eithriadol - Nia Griffith, Ysgol Seicoleg
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2020