Gwobrau'r Uchel Siryf i fyfyrwyr sy’n gwirfoddoli yn y gymuned
Cyflwynwyd Gwobrau'r Uchel Siryf i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor am eu hymroddiad eithriadol i wirfoddoli dros eu cyfnod yn y Brifysgol. Cynhaliwyd y seremoni fawreddog ym mhresenoldeb y Canghellor, yr Is-Ganghellor a Chyngor y Brifysgol dan arweiniad Peter Harlech Jones, Uchel Siryf Ynys Môn a Gwynedd.
Sefydlwyd y wobr yn 2007 oherwydd dymuniad yr Uchel Siryf ar y pryd, Dr Dewi Roberts, a oedd hefyd yn aelod o Gyngor y Brifysgol, a'i wraig, Dr Sheila Roberts i roi cydnabyddiaeth swyddogol i gyfraniad myfyrwyr Prifysgol Bangor i'r gymuned leol drwy waith gwirfoddol. Mae myfyrwyr presennol Bangor yn gallu enwebu eu cyd-fyfyrwyr am wobr unigol neu wobr grŵp project gwirfoddoli a chytunir ar yr enillwyr gan banel yn cynnwys Uchel Siryfion presennol a blaenorol ac uwch staff y brifysgol. Eleni, cyflwynwyd tair gwobr unigol ynghyd â dwy wobr grŵp.
Dyfarnwyd £750 i Gyfraith y Stryd, rhan o Gymdeithas y Gyfraith Prifysgol Bangor, i gefnogi eu gwaith gwirfoddoli. Mae Cyfraith y Stryd yn broject sy'n cael ei redeg gan fyfyrwyr sy'n rhoi cyngor ar y gyfraith a hawliau defnyddwyr. Yn dilyn toriadau diweddar i'r gyllideb cymorth cyfreithiol, mae angen dirfawr am y gwasanaeth gwerthfawr hwn yn y gymuned a'u nod yw darparu fflach-glinigau cyfreithiol trwy Wynedd ac Ynys Môn.
Mae Sbectrwm yn broject GMB (Grŵp gwirfoddoli myfyrwyr Undeb y Myfyrwyr Bangor) sy'n cynnig clwb gweithgareddau wythnosol i blant a effeithir gan Anhwylder Sbectrwm Awtistig ynghyd â'u brodyr a chwiorydd. Mae grŵp o fyfyrwyr hynod ymroddedig yn gwirfoddoli i arwain a rheoli'r project sy'n cynnig amgylchedd diogel, dan reolaeth dda i blant allu lledu eu gorwelion.
Dyfarnwyd gwobr unigol i Keira Hand yn gydnabyddiaeth am ei hymroddiad fel cyfarwyddwr Cyfraith y Stryd. Mae Keira yn haeddu llawer o'r diolch am lwyddiant presennol y grŵp eleni yn dilyn anawsterau a arweiniodd iddo ddod yn agos at gau. Enwebwyd Keira gan aelodau ei thîm am eu bod yn credu ei bod yn anhygoel o drefnus, brwdfrydig ac ymroddedig i'r grŵp ac yn credu ei bod yn gyfrifol am dwf y grŵp dros y 12 mis diwethaf.
Derbyniodd Aimee Boyd wobr unigol am ei hymroddiad i wirfoddoli gyda GMB dros 5 mlynedd. Mae'n rhan o broject gwirfoddoli sy'n ymweld ag Uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd, Bangor unwaith yr wythnos i gynnig sesiynau gweithgareddau i'r cleifion, yn gwirfoddoli fel cynorthwyydd Cymorth Cyntaf yng ngemau chwaraeon Prifysgol Bangor, yn hyfforddi Clwb Jiwdo Prifysgol Bangor ac yn dysgu Bol-ddawnsio dan fantell Cymdeithas Ddawns Prifysgol Bangor. Cafodd Aimee hefyd gydnabyddiaeth am ei gwaith caled yn datblygu Gwobr Dug Caeredin yn y brifysgol.
Derbyniodd Ruth Plant ac Amelia Boddison, cydlynwyr presennol RAG Prifysgol Bangor, ddyfarniad ar y cyd. Mae Ruth ac Amelia wedi trefnu sawl digwyddiad ar raddfa fawr eleni, a chodi arian i bedair elusen a ddewiswyd gan y corff myfyrwyr. Maent yn agos i godi'r targed, sef dros £4000, a gaiff ei rannu'n gyfartal rhwng y Child Brain Trust, y Newlife Foundation, Tiny Tickers a'r Ambiwlans Awyr i Blant.
Roedd y prynhawn yn gyfle rhagorol i ddiolch i'r holl fyfyrwyr sy'n gwirfoddoli am eu holl waith caled a'u hymroddiad i'w hachosion. Cynhelir Gwobrau'r Uchel Siryf unwaith eto flwyddyn nesaf a derbynnir enwebiadau ym mis Mawrth.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mai 2016