Gwobrwyo Athrawon am ddatblygu sgiliau iaith
Cafodd ymdrechion athrawon a darlithwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg eu cydnabod mewn seremoni arbennig a gynhaliwyd yng Nghanolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor yn ddiweddar.
Yng nghwmni Dirprwy Is-ganghellor y Brifysgol, yr Athro Jerry Hunter, dathlwyd llwyddiant unigolion sydd wedi ymroi i ddefnyddio’r Gymraeg yng nghyd-destun eu gwaith.Cyflwynwyd tystysgrifau i ymarferwyr addysg o’r sectorau cynradd, uwchradd ac addysg bellach sydd wedi cwblhau cwrs y Cynllun Sabothol Cenedlaethol.
Cwrs iaith a ddatblygwyd yng Nghanolfan Bedwyr drwy nawdd Llywodraeth Cymru ydy’r Cynllun Sabothol. Mae’r cwrs yn anelu at gefnogi un o amcanion strategaeth addysg y llywodraeth, sef cynyddu niferoedd yr athrawon, hyfforddwyr a darlithwyr sy’n abl i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Dywedodd yr Athro Jerry Hunter: “Fel un sydd wedi dysgu Cymraeg fy hun a bellach yn arwain ar y Gymraeg yn y Brifysgol, rwy’n credu ei bod hi’n hollbwysig fod y Brifysgol yn gallu darparu cyfleoedd fel hyn i athrawon a darlithwyr, yn ddysgwyr rhugl a siaradwyr mamiaith, i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg yng nghyd-destun eu gwaith fel addysgwyr.”
Dywedodd Dr Llion Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr: “Profiad braf iawn oedd cael cydnabod llwyddiant cynifer o unigolion sydd bellach yn defnyddio’u Cymraeg o ddydd i ddydd mewn ysgolion a cholegau ar draws gogledd Cymru. Mae Canolfan Bedwyr yn falch iawn o allu cyfrannu’n ymarferol fel hyn at un o amcanion canolog strategaeth addysg Gymraeg y llywodraeth”.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Gorffennaf 2015