Gwobrwyo cyfraniad at wyddorau chwaraeon ac ymarfer
Mae Cymdeithas Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Prydain (British Association of Sport and Exercise Sciences, neu BASES) yn falch o gael anrhydeddu Stuart Beattie, Darlithydd mewn Seicoleg Chwaraeon yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor ac aelod o’r Sefydliad Ymarfer Elît, gyda Chymrodoriaeth BASES i gydnabod ei gyraeddiadau proffesiynol gwerthfawr, ei sgiliau, ei wybodaeth a’i wasanaeth i BASES a’r gymuned gwyddorau chwaraeon ac ymarfer.
BASES yw’r prif gorff proffesiynol dros wyddorau chwaraeon ac ymarfer yn y DU.
Dim ond criw dethol o wyddonwyr chwaraeon ac ymarfer sydd wedi derbyn Cymrodoriaeth BASES ers sefydlu’r corff yn 1984. Dyfernir Cymrodoriaethau i’r aelodau hynny sydd wedi dangos angerdd ac ymrwymiad i BASES a gwyddorau chwaraeon ac ymarfer. Gall y rhai sy’n derbyn Cymrodoriaeth ddefnyddio FBASES ar ôl eu henwau a bod yn arweinwyr a llysgenhadon dros y Gymdeithas.
Bydd y cyrhaeddiad yn cael ei nodi yn ystod Cinio Cynhadledd 2016 ar nos Fawrth 29 Tachwedd yn yr East Midlands Conference Centre.
Meddai’r Athro Nicky Callow, Deon y Coleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad: “Mae Stuart yn llwyr haeddu’r Gymrodoriaeth hon. Mae wedi gwneud cyfraniad gwych i wyddorau chwaraeon ac ymarfer drwy ei waith ymchwil ei hun a thrwy ei gefnogaeth ac anogaeth i fyfyrwyr dros y blynyddoedd.”
Meddai Dr Keith Tolfrey, Cadeirydd BASES: “Rwyf yn falch o weld cymaint o wyddonwyr chwaraeon ac ymarfer yn derbyn cydnabyddiaeth am eu cyfraniadau neilltuol i BASES a’r gymuned gwyddorau chwaraeon ac ymarfer. Mae’r gwobrau wedi eu hennill drwy waith caled ac mae pob un yn eu haeddu yn llwyr.”
Yn gynharach eleni, trefnodd Dr Beattie Gynhadledd Flynyddol Myfyrwyr BASES. Gweler (dolen i’r stori). Mae’n ymuno â’r Athro Lew Hardy o’r Ysgol a sawl cyn-aelod o staff yr Ysgol sydd hefyd yn Gymrodorion BASES. Mae rhestr lawn ar gael yma: www.bases.org.uk/Fellowships
Dyddiad cyhoeddi: 30 Medi 2016