Gwobrwyo datblygu Economi Werdd
Mae pedwar cwmni lleol sydd wedi bod yn canolbwyntio ar gynaladwyedd eu busnesau wedi ennill gwobrwyon gan Brifysgol Bangor.
Dewiswyd y pedwar cwmni buddugol o blith dros 300 o fusnesau, asiantaethau a mentrau cymdeithasol yng Nghymru a fu’n cymryd rhan mewn project i ddatblygu economi werdd gynaliadwy yng Nghymru ac Iwerddon.
Rheolwyd project GIFT (The Green Innovation Future Technologies Project), gan Brifysgol Bangor, ac mae wedi galluogi busnesau bychain i wneud camau mawr tuag at gynaliadwyedd drwy uwchraddio sgiliau eu staff a rhannu ymarfer gorau.
Mae’r project tair blynedd arloesol rhwng Prifysgol Bangor, Waterford Institute of Technology a Choleg Prifysgol Dulyn bellach yn tynnu at y terfyn gan ddathlu llwyddiant y rhai a gymerodd ran ynddo. Gwahoddwyd pob cwmni a mudiad sydd wedi cymryd rhan mewn gweithdai, cyrsiau a rhwydweithio i ddigwyddiad i nodi diwedd y project, ond hefyd i ddathlu twf yr economi werdd.
Dywedodd Stuart Bond, rheolwr y project, bod y rhwydwaith wedi bod yn un arbennig o ddefnyddiol a grymus ac y bydd, gobeithio, yn arwain at gysylltiadau a datblygiadau pellach.
Meddai Dr Joe Revetz o’r Centre for Urban Resilience and Energy, a oedd yn brif siaradwr yn y digwyddiad:
“Mae angen i ni ymateb yn gadarn i newid hinsawdd a’r prinhau a welir mewn adnoddau byd-eang. Mae angen i ni feddwl yn ddwys a chanfod ffyrdd i gymunedau busnes barhau i ddatblygu a thyfu mewn amrywiol ffyrdd. Mae busnesau bychain fel y rhai sy’n ffurfio’r Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd yn allweddol bwysig yn hyn o beth ac mae’r project yma, a dderbyniodd gyllid Ewropeaidd, wedi bod yn un cyfrwng i helpu’r busnesau hyn. Mae’n allweddol bwysig nad yw pethau’n stopio yma. Mae yna broject Ewropeaidd newydd, y Common Assessment for Sustainability Innovation, a ddechreuodd yn 2014, gan greu llyfrgell o enghreifftiau ac edrych ar ffyrdd o ymestyn y syniadau hyn o fusnesau bychain a chanolig i gwmnïau mwy.”
Cyflwynwyd pedair gwobr yng Nghymru a phedair yn Iwerddon i gwmnïau, unigolion neu sefydliadau y teimlai’r project oedd wedi ymgorffori agweddau craidd yr economi werdd – defnyddio adnoddau’n effeithlon, carbon isel a chynhwysiad cymdeithasol.
Y pedwar enillydd oedd Datblygiadau Egni Gwledig (DEG); Mark Edwards, darparwr llety i ymwelwyr; Malcolm Innes a Mr a Mrs Whitehead o Bryn Elltyd Eco Guest House.
Derbyniodd DEG Wobr Arloesi Cynaliadwy. Cwmni Budd Cymunedol newydd yw DEG ac fe’i sefydlwyd er mwyn hybu ynni cymunedol cynaliadwy ar draws Gwynedd, Conwy a Môn.
Dywedodd Stuart Bond, rheolwr project GIFT, ar ran y pwyllgor gwobrwyo:
“Roedd dewis un cwmni ar gyfer hyn ac ar gyfer yr holl wobrau yn her, ond mae DEG wedi cwmpasu nifer o feysydd allweddol, gan gysylltu’r gymuned, ynni a chyllid. Mae ffordd arloesol DEG o weithio gyda chymunedau er mwyn cynyddu sgiliau grwpiau lleol yn sicrhau bod budd projectau ynni adnewyddadwy yn aros o fewn y cymunedau hynny y maent yn eu cefnogi.”
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Grant Peisley, Cyfarwyddwr DEG:
“Mae bod yn rhan o rwydwaith GIFT wedi ein helpu ni i dyfu ein rhwydwaith a datblygu ein brand. Mae’r cysylltiadau yr ydym wedi’u creu wedi’n cynorthwyo yn ein gwaith i gadw buddiannau ein treftadaeth naturiol yn lleol.”
Cyflwynwyd y Wobr Technolegau Cynaliadwy i Celia a John Whitehead, perchnogion Bryn Elltyd, llety gwely a brecwast ‘Eco’ gynaliadwy ym Mlaenau Ffestiniog, sydd yn cael ei holl ynni o ffynonellau adnewyddadwy.
Meddai Stuart Bond:
“Mae gan John a Celia fusnes bychan sydd yn gwneud gwahaniaeth mawr, gan dorri tir newydd gyda’u hagwedd arloesol at dechnolegau cynaliadwy. Nid oes arnynt ofn gwaith caled ac maent wedi gwneud llawer o’r gwaith ar y gwesty eu hunain. Maent yn cystadlu’n rheolaidd yn erbyn cadwynau gwestai mawrion fel y Savoy a Best Western am wobrau cenedlaethol ar sail eu dulliau arloesol a dyfal o weithredu yn unol â’u daliadau.
Meddai John Whitehead: “Mae GIFT wedi helpu Cymru i ystyried problem cynaladwyedd. Fel busnes bychan iawn, ond gwyrdd iawn, sy’n defnyddio ynni adnewyddol, mae cyhoeddi ein neges yn broblem. Nid yw’r rhan fwyaf o sefydliadau cynllun gwyrdd yn rhoi cyhoeddusrwydd neu rannu ymarfer da os nad ydynt wedi cynorthwyo busnes yn uniongyrchol ar eu taith i fod yn fusnes mwy cynaliadwy. Mae GIFT yn wahanol. Maent yn dathlu llwyddiant lle bynnag y bo. Mae’n rhaid eu llongyfarch am hyn.”
Mark Edwards o Bryn Bella Guest House ym Metws y Coed dderbyniodd y Wobr Twristiaeth Gynaliadwy. Mae’r busnes gwely a brecwast wedi mabwysiadu technolegau a dulliau gweithredu cynaliadwy.
Meddai Stuart Bond:
“Mae Mark wedi bod yn ymgyrchwr diflino dros dwristiaeth werdd, ynni gwyrdd a nifer o agweddau eraill ar yr economi werdd. Mae Bryn Bella yn rhoi esiampl dda yn y modd y maent yn cydweithio efo busnesau eraill i ddarparu profiad gwyliau cynaliadwy sy’n gwneud pob ymdrech i ddiogelu’r amgylchedd. “
Yn ôl Mark Edwards:
“Mae’r ffaith fod Rhwydwaith GIFT wedi mynd â ni y tu hwnt i Gymru wedi bod o fudd mawr, ac wedi agor drysau i ni rwydweithio, rhannu profiadau ac edrych o safbwynt gwahanol ar y problemau sy’n ein hwynebu. Mae’r weithred syml o ddod â busnesau gwahanol o wledydd gwahanol at ei gilydd wedi dangos i ni pa mor wahanol ydym, ond eto pa mor debyg yw ein hanghenion o ran sicrhau model busnes cynaliadwy. Allwn ni ddim meddwl am unrhyw fforwm rhwydwaith arall lle gallem gael cyfle i gyfarfod uwch swyddogion un o dirfeddianwyr mwyaf y wlad i drafod manteision Pympiau Ffynonellau Gwres o’r Môr ac yna siarad efo ffermwr ym mynyddoedd Eryri sydd ar fin gosod system trydan dŵr. Mae pawb rydym wedi cyfarfod â hwy drwy GIFT wedi dod â rhywbeth gerbron ac wedi cael swmp sylweddol o wybodaeth na fyddai wedi bod yn hawdd ei chael yn unman arall.”
Cyflwynwyd gwobr 'Adnoddau Cynaliadwy' i Malcolm Innes, o Fangor, am Compodular, sef system ynni o gompost.
Meddai Stuart Bond: “Mae Malcolm Innes yn arloeswr penigamp, ac mae wedi bod yn gweithio ar y system wych hon lle gellwch greu gwres y gellir ei ddefnyddio o gompost a pharhau i ddefnyddio'r compost yn y pen draw. Mae Malcolm Innes wedi gwneud cyfraniad neilltuol i reoli adnoddau cynaliadwy, gan ddatblygu mwy ar syniadau a ddatblygwyd yn y 60au a'r 70au, a'u troi'n fusnes hyfyw a masnachol.”
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Malcolm Innes:
“Mae hi wedi bod yn bleser mawr ymwneud â'r project GIFT dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf – rydym ni wedi dysgu cymaint drwy'r bobl yr ydyn ni wedi'u cyfarfod. Rydw i wedi sylweddoli pa mor ddibynnol yr ydan ni ar y pwerau naturiol. Mae hi mor bwysig i ni ddod â'n syniadau at ei gilydd, ac fe roddodd y project gyfle i wneud hynny”
Meddai Dr Gareth Griffiths, o Ysgol Busnes y Brifysgol, a fu’n arwain y project amlddisgyblaethol:
“Un elfen bwysig o’r project oedd creu fforwm i bobl rannu syniadau da ac arfer da drwy Rwydwaith Arloesi Gwyrdd. Gall gweld eraill yn mabwysiadu technolegau newydd roi’r hyder i bobl symud ymlaen gyda’u busnesau eu hunain. Mae’r enillwyr yma wedi dangos sut mae mabwysiadu technolegau cynaliadwy wedi cynorthwyo’r unigolion a’r sefydliadau i ‘wyrddio’ eu busnes a chael mynediad i farchnadoedd newydd.”
Derbyniodd GIFT gyllid o €2.3 miliwn o Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop (ERDF) drwy raglen Interreg IVA. Mae project GIFT a’r Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd wedi canolbwyntio ar hybu datblygu cynaliadwy ym meysydd yr economi werdd, twristiaeth werdd, rheoli gwastraff a thechnoleg werdd.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2014