Gwobrwyo Gwyddonydd am ei waith ar hinsoddau’r gorffennol
Mae'r gymdeithas ddaearegol hynaf yn y byd, sef "The Geological Society of London", wedi cydnabod cyfraniad gwyddonol Dr Paul Butler o Ysgol Gwyddorau Eigion ym Mhrifysgol Bangor trwy ddyfarnu gwobr y "2014 Lyell Fund" iddo.
Fe'i rhoddir i ymchwilwyr ym maes gwyddorau'r ddaear i gydnabod ymchwil nodedig a gyhoeddwyd ganddynt cyn pen deng mlynedd ar ôl iddynt raddio. Mewn gwaith a wnaeth yn ystod ei ddoethuriaeth ac wedi hynny, mae Dr Butler wedi gwneud cyfraniad mawr at ddatblygu ymchwil cylch cragen ac mae wedi cydysgrifennu nifer o erthyglau pwysig ar hanes newid yn hinsawdd y môr dros y mileniwm diwethaf. Mae'n gweithio fel rhan o dîm o arbenigwyr rhyngwladol blaenllaw sydd wedi datblygu technegau soffistigedig i fesur a dadansoddi'r cylchoedd twf blynyddol sydd i'w gweld yng nghregyn molysgiaid dwygragennog hirhoedlog.
Trwy gymharu tebygrwydd ym mhatrymau twf gwahanol gregyn, mae gwaith Dr Butler wedi dangos ei bod yn bosib olrhain hanes y cregyn hyn am gannoedd o flynyddoedd i'r gorffennol, gan roi cefndir tymor hir y cregyn y gellir ei ddefnyddio i asesu'r newidiadau yn hinsawdd y môr heddiw. Ar ôl creu archif yn olrhain 500 mlynedd o hanes y dyfroedd o amgylch Ynys Manaw yn ystod ei PhD, cyfrannodd Dr Butler at astudiaeth ar y cyd mawr ar hinsawdd Ewrop yn ystod y mileniwm diwethaf. Yn ystod yr astudiaeth hon, datblygwyd archif o gregyn yn ysgafell ogleddol Gwlad yr Iâ a defnyddiwyd yr archif i ymchwilio i hanes cerrynt gogledd yr Iwerydd, sydd mor bwysig i'r hinsawdd yng ngogledd-orllewin Ewrop. Defnyddiwyd yr astudiaeth hefyd fel sail i waith parhaus i adeiladu'r gyfres tymheredd morol gyntaf dros fil o flynyddoedd.
Dechreuodd Paul Butler astudio am ei radd gyntaf yn Ysgol Gwyddorau Eigion ym Mhrifysgol Bangor pan oedd yn 47 mlwydd oed ar ôl gweithio am chwarter canrif fel ymgynghorydd TG yn Llundain. Enillodd radd anrhydedd ddosbarth cyntaf yn 2004 a dechreuodd astudio am PhD ar unwaith wedi hynny ac enillodd ei ddoethuriaeth yn 2009. Yn 2010, dyfarnodd y "Quaternary Research Association" fedal Lewis Penny i Dr Butler am ei waith ar archif Ynys Manaw.
Cyflwynir y wobr i Dr Paul Butler ar 4 Mehefin 2014. Dywed:
"Mae'n braf iawn clywed bod y "Geological Society of London" wedi dewis cydnabod ein dull ni, sy'n newydd ond sy'n datblygu'n sydyn, o astudio hinsoddau'r gorffennol. Rwyf wedi bod yn hynod o ffodus i gael cyfle i weithio gyda dau o'r arbenigwyr mwyaf yn y maes, sef yr Athro James Scourse a'r Athro Chris Richardson yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion. Rwyf wedi gallu gwneud yr ymchwil sydd wedi arwain at y wobr hon oherwydd fy mod wedi cael gweithio gyda nhw a manteisio ar yr adnoddau rhagorol yn yr ysgol, yn cynnwys ein llong ymchwil yr RV Prince Madog.
Dywed yr Athro Colin Jago, Pennaeth Coleg y Gwyddorau Naturiol:
"Mae Paul yn llawn haeddu'r gydnabyddiaeth hon gan ei gymheiriaid daearegol. Mae'n destun balchder arbennig i ni fod Paul wedi meithrin ei yrfa ym maes gwyddorau'r eigion yn llwyr ym Mhrifysgol Bangor, o fod yn fyfyriwr israddedig i fod yn ddarlithydd ymchwil."
Ar hyn o bryd, mae Paul Butler yn cydlynu project cydweithredol a gyllidir gan yr UE. Nod y project yw defnyddio archifau o gregyn i edrych yn fanwl ar hanes hinsawdd y môr yng ngogledd ddwyrain yr Iwerydd dros y mileniwm diwethaf. Mae'r project hwn yn parhau â gwaith tîm Bangor ac arbenigwyr blaenllaw eraill a bydd yn hyfforddi deg myfyriwr doethuriaeth mewn saith canolfan ledled Ewrop ar y sgiliau sy'n gysylltiedig â gwneud ymchwil i gylchoedd cregyn. Mae hefyd yn ddarlithydd ymchwil mewn sglerocronoleg a sglerohinsoddeg, trwy gyllid gan Gonsortiwm Newid Hinsawdd Cymru (C3W).
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mawrth 2014