Gwobrwyo Myfyrwyr am Wirfoddoli
Cynhaliwyd seremoni flynyddol Gwobrau’r Uchel Siryf ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar. Mae Gwobr yr Uchel Siryf yn cydnabod ac yn gwobrwyo ymdrechion gwirfoddoli gan fyfyrwyr Bangor fel unigolion ac mewn grwpiau.
Cyflwynwyd gwobrau i’r holl enillwyr gan yr Uchel Siryf, yr Athro Robin Grove-White a Dr Dai Roberts aelod o Gyngor y Brifysgol. Llongyfarchwyd y myfyrwyr am roi o’u hamser a’u hymdrechion, ar ben eu gwaith astudio, i gyfrannu at y gymuned myfyrwyr a'r gymuned yn ehangach trwy eu gwaith gwirfoddol.
Enillwyd y categori unigol gan dri myfyriwr ymroddedig, a chawsant siec o £100 yr un.
Gwobrwywyd Trefor Alun am ei gyfraniad gwerthfawr i'r Undeb Myfyrwyr. Bu’n gadeirydd Undeb y Myfyrwyr yn ystod 2009/2010, yn cynrychioli myfyrwyr ar Senedd Undeb y Myfyrwyr, a hefyd yn gadeirydd pwyllgor gwirfoddoli gan fyfyrwyr Bangor yn ystod 2010/2011. Mae hefyd wedi gwneud gwaith gwirfoddol ar nifer o brojectau.
Monique Goldsmith yw'r Cydlynydd RAG ac mae wedi helpu i godi £12,000 ar gyfer elusennau lleol a chenedlaethol. Mae hefyd yn codi arian yn bersonol ar gyfer World Challenge a thalodd am ei hymweliad â Ghana er mwyn sicrhau bod y gwaith o ddatblygu cartref newydd ar gyfer plant amddifad yn mynd rhagddo.
Treuliodd Steven Barnard hyd at 40 awr yr wythnos gan gynnwys gyda’r nos a’r penwythnosau yn cefnogi myfyrwyr yn yr Undeb Rygbi, Cymorth Cyntaf a nofio tanddwr. Mae wedi gweithio'n agos gyda'r Undeb Athletau gan gynnwys trefnu darpariaeth Cymorth Cyntaf ar gyfer y digwyddiad Marathon Ultra elusennol. Mae Steven yn chwarae rhan allweddol yn sicrhau llwyddiant Clwb Nofio Tanddwr Prifysgol Bangor.
Aeth y Wobr Grŵp o £300 i Broject Hergest Gwirfoddoli gan Fyfyrwyr Bangor sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr wirfoddoli gydag oedolion sydd â phroblemau iechyd meddwl yn Uned Hergest, Ysbyty Gwynedd. Bydd gwirfoddolwyr yn trefnu amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth fel eu bod yn cymryd rhan bob yn ail wythnos mewn gweithgareddau fel coginio, cerddoriaeth, carioci, gemwaith, celf a chrefft a chwaraeon cymdeithasol fel pŵl, snwcer a ping pong. Bydd y wobr yn cael ei defnyddio i brynu rhagor o offer ac offerynnau cerddorol er mwyn cynnal sesiynau therapi cerddoriaeth.
"Mae'n bwysig bod gwaith cymunedol arbennig fel hyn yn cael ei gydnabod a'i wobrwyo. Nid yn unig y mae’r gronfa hon o fudd i grwpiau o fewn y gymuned, mae hefyd yn rhoi profiadau gwerthfawr i fyfyrwyr Prifysgol Bangor a fydd yn gwella eu rhagolygon gyrfa," meddai'r Athro Robin Grove-White.
Diolchodd Dr David Roberts, Cofrestrydd y Brifysgol, i Dr Dai Roberts am sefydlu’r gronfa 5 mlynedd yn ôl ac i’r Uchel Siryf, yr Athro Robin Grove-White am gyflwyno'r gwobrau gan ddweud: "Mae projectau gwirfoddoli yn galluogi myfyrwyr Bangor i roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned lle maent yn byw. Mae'r cyfleoedd hyn yn rhan bwysig o gymuned y Brifysgol a phrofiad y myfyrwyr.”
Gwahoddwyd yr enillwyr i ymweld â Thŷ'r Arglwyddi yn Llundain gyda Chadeirydd y Cyngor, yr Arglwydd Abersoch, yn talu’r costau.
Gall unigolion sy'n dymuno cyfrannu tuag at Gronfa'r Uchel Siryf wneud hynny drwy'r Swyddfa Datblygu, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2012