Gwobrwyo myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor
Roedd pencampwr y byd sydd newydd ennill dwy fedal aur ymhlith y myfyrwyr a dderbyniodd wobrau ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.
Roedd Darryl Gallagher o Faes Tryfan, Bangor, ymysg dros hanner cant o fyfyrwyr (53) o ogledd Cymru a dderbyniodd ysgoloriaethau mewn noson wobrwyo a gynhaliwyd yn y brifysgol yn ddiweddar. Dyfarnwyd 94 Wobr Ysgoloriaeth i myfyrwyr yn hannu o bob cornel o’r DU o’r Gronfa Ysgoloriaethau o £191,000.
Mae Darryl newydd ddychwelyd o Bencampwriaethau Cic-Focsio’r Byd yn yr Eidal gyda dwy fedal aur, a derbyniodd un o ysgoloriaethau chwaraeon pwysig y Brifysgol. Fe’u dyfernir i athletwyr eithriadol mewn gwahanol gampau. Pwrpas yr ysgoloriaethau yw cynorthwyo’r myfyrwyr i barhau i hyfforddi a chystadlu yn eu gwahanol gampau ar lefel cenedlaethol a rhyngwladol, ac astudio yn y brifysgol ar yr un pryd.
Mae Darryl, sy’n astudio Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, yn hyfforddi’n rheolaidd ac yn cael cefnogaeth a chyngor i’w gynllun hyfforddi yng Nghanolfan Chwaraeon Maes Glas y Brifysgol.
Fel athletwr ifanc dawnus ac addawol lleol, derbyniodd Darryl bwrsariaethau Maes Glas cyn dod i’r brifysgol. Gyda’r bwrsariaethau hyn cafodd hyfforddiant a defnyddio’r cyfleusterau am ddim ym Maes Glas, sef y ganolfan chwaraeon sydd agosaf i’w gartref.
Mae’r Brifysgol yn rhoi amrywiaeth o ysgoloriaethau rhagoriaeth ac ysgoloriaethau eraill i fyfyrwyr sy’n astudio gwahanol bynciau ac fe’u rhoddir am wahanol resymau. Dyfernir rhai ysgoloriaethau ar sail arholiad, ac roedd safon y rhain yn arbennig o uchel eto eleni. Dyfernir ysgoloriaethau eraill yn ôl cryfder y ceisiadau gwreiddiol i astudio yn y brifysgol. Mae’r ysgoloriaethau’n galluogi’r brifysgol i sicrhau bod y myfyrwyr mwyaf talentog a haeddiannol yn gallu astudio yn y brifysgol.
Darllenwch mwy am rai o'n henillwyr ysgoloriaethau yma.
Derbyniodd 27 o fyfyrwyr Ysgoloriaethau’r Rhaglen Dawn a Chyfle. Dyfernir y rhain o ganlyniad i addewid a wnaed i ddisgyblion o ysgolion lleol sy’n cymryd rhan yn Rhaglen Dawn a Chyfle’r Brifysgol. Trwy ddilyn rhaglen o weithgareddau ac ymweliadau, mae’r rhaglen yn annog disgyblion i ystyried addysg uwch fel opsiwn. Gwneir addewid o ysgoloriaeth i’r disgyblion yn yr ysgolion sy’n cymryd rhan os ydynt yn llwyddo i fynd ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Bangor.
Meddai Alan Parry, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Corfforaethol a Marchnata’r Brifysgol: “Mae’n braf medru cynnig amrediad eang o ysgoloriaethau i’r myfyrwyr talentog hyn sydd newydd ddechrau ar eu hastudiaethau ym Mhrifysgol Bangor. Mae ein Hysgoloriaethau Dawn a Chyfle’n dangos ein hymrwymiad i ehangu mynediad at addysg uwch trwy annog pobl ifanc i astudio mewn prifysgol. Rydym yn falch iawn o gael croesawu 18 o fyfyrwyr newydd o ysgolion lleol a gymerodd ran yn y rhaglen ynghyd â holl enillwyr yr ysgoloriaethau.”
Mae gan Brifysgol Bangor un o’r projectau ehangu mynediad mwyaf a hynaf o gymharu â phrifysgolion eraill. Mae’r brifysgol yn gweithio’n agos gydag ysgolion, disgyblion a rhieni dros gyfnod o dair blynedd. Mae’n dangos ymrwymiad pwysig y brifysgol i’r rhanbarth, yn cynyddu uchelgais disgyblion ysgol ar draws ogledd Cymru yn ogystal â chodi eu hymwybyddiaeth o addysg uwch a'r hyn y gall ei chynnig iddynt.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Rhagfyr 2013