Gwobrwyo Project sy’n helpu ffermwyr arbed arian a gwarchod yr amgylchedd
Mae project gan Brifysgol Bangor sy’n helpu ffermwyr yng Nghonwy i fod yn gynnil a gwarchod yr amgylchedd ar yr un pryd wedi’i gydnabod fel enghraifft o ymarfer da ar gyfer yr amgylchedd gan gangen Conwy Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig (YDCW).
Mae’r project CEFN, sydd wedi ennill y wobr, yn cael ei gyllido’n rhannol gan Gynllun Datblygu Cefn Gwlad Llywodraeth Cymru, ac yn cael ei ddarparu ar ran partneriaeth Wledig Gwlad Conwy gan Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a daearyddiaeth.
“Roedd fy nghydweithwraig, Jo a minnau wrth ein boddau i dderbyn y Wobr ar ran CEFN Conwy a’r Brifysgol,” meddai Dr Julie Williamson, swyddog y project. “Mae’r project wedi cael derbyniad gwresog gan ffermwyr ac undebau amaeth o fewn Conwy ac rydym wedi cydweithio efo dros hanner cant o ffermydd erbyn hyn,” meddai.
Mae’r project yn cefnogi ffermwyr trwy brofi ffrwythlondeb eu pridd a’r maeth mewn slyri er mwyn iddynt ddefnyddio’r wybodaeth i benderfynu faint o wrtaith y maent angen ei brynu, ac i sicrhau nad ydynt yn lledaenu mwy o wrtaith ar eu caeau na sydd ei hangen. Mae hyn yn arbed arian ac yn gwarchod yr amgylchedd.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2011