Gwrandewch ar ein Seicolegwyr Chwaraeon heno ar Science Cafe
Wrth i ni nesáu at Gemau Olympaidd Llundain 2012 mae’r tîm rhaglen Science Cafe Radio Wales yn ymweld â Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Corff Phrifysgol Bangor i ddarganfod yr ymchwil a all roi’r athletwyr gorau ar y blaen wrth berfformio o dan straen digwyddiadau chwaraeon blaenllaw.
Caiff y rhaglen ei ddarlledu am 7.00 nos Fawrth 3 Gorffennaf a gellir gwrando ar y rhaglen eto am hyd at wythnos ar ôl y darllediad cyntaf yma: Gwrando eto
Fel yr esbonia cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad, Dr Tim Woodman: “Mae’r Sefydliad yn uchel ei barch ym myd seicoleg chwaraeon, a chanddi ystod o arbenigeddau sy'n anelu at helpu athletwyr unigol yn ogystal â thimau rhagori yn eu maes dewisol.
Un maes lle y gellir hyd yn oed athletwyr ar frig eu proffesiwn baglu drosti yw’r "camgymeriad eironig" - lle o dan bwysau, maent yn dueddol o wneud y camgymeriad maent yn ceisio ei osgoi.”
Bydd y Darlithydd, Dr Ross Roberts yn trafod y rôl gall personoliaeth unigolyn chwarae mewn perfformiad chwaraeon, gan gynnwys y rhai gyda thueddiadau narsisaidd.
Bydd y cyflwynydd Adam Walton hefyd yn cyfarfod darlithydd a chyd-gyfarwyddwr y Sefydliad, Calum Arthur sy'n gweithio gyda hyfforddwyr chwaraeon a milwrol, yn enwedig milwyr traed, er mwyn dyfeisio strategaethau i wella perfformiad a gwaith tîm.
Bydd y Darlithydd Seicoleg Chwaraeon, Stuart Beattie yn trafod sut y gallai rhai o'r technegau a ddefnyddir ar gyfer athletwyr elitaidd cael ei addasu ar gyfer gwella agwedd bob un ohonom at fywyd bob dydd.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2012