Gwyddoniaeth M-SParc; Cyflawnwyd ar amser ac o fewn y gyllideb
Agorwyd drysau M-SParc, Parc Gwyddoniaeth penodedig cyntaf Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi, ar amser ac o fewn y gyllideb.
Bu’r cyfleuster £20m, a ariannwyd yn rhannol gan Gyllid Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru yn cael ei ddatblygu ers 5 mlynedd ac ar Fawrth 1af daeth yr weledigaeth yn realiti - y cyfan ar amser ac o fewn y gyllideb.
Mae’r adeilad yn cynnwys labordy, swyddfa a gofod gweithdy glân, wedi’u creu gyda mewnbwn gan gwmnïau o bob maint sy’n gweithio yn y sectorau gwyddoniaeth a thechnoleg gyda ffocws ar Garbon Isel. Mae croeso i fusnesau a phrosiectau sydd eisiau datblygu eu technoleg, eu prosesau a’u hymdrechion gwyddonol eu hunain “Rydym eisiau denu’r goreuon a’r mwyaf disglair yn y rhanbarth” meddai Ieuan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc.
Yn ogystal â gofod ar gyfer tenantiaid, mae’r adeilad newydd anhygoel hwn yn cynnig ystafelloedd cyfarfod ac ystafell fwrdd wych a adeiladwyd i greu argraff, a fydd ar gael i unrhyw fusnes neu gwmni yn yr ardal eu llogi. Mae ardal weithio a Chaffi Tanio yn cynnwys Wi-Fi a mannau cyfarfod anffurfiol, i annog pobl ifanc a gweithwyr o’r ardal i eistedd gyda phaned o goffi a chymryd mantais ar yr amgylchedd ysbrydoledig. Mae desgiau mewn swyddfa gweithfannau parod hefyd ar gael i'w rhentu am gyfnodau byr, gan ddechrau o un diwrnod hyd at gyfnod o fis.
Mae’r ffocws ar garbon isel, ynni a’r amgylchedd, a TGCh, a disgwylir i 11 o gwmnïau yn y sectorau hyn symud i mewn rhwng nawr a’r haf. Bydd y busnesau hyn i gyd yn derbyn cefnogaeth fusnes gan Swyddog Cefnogi Busnes penodedig, gan mai nod M-SParc yw annog a chynorthwyo’r holl gwmnïau sy’n denantiaid i ddatblygu a thyfu.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Ieuan Wyn Jones “Mae M-SParc yn is-gwmni dan berchnogaeth lwyr Prifysgol Bangor, sy’n golygu ein bod ni ein hunain yn Fusnes Bach a Chanolig. Mae gennym dîm o 6 o staff, llawer ohonynt â phrofiad o redeg eu busnesau eu hunain, a phob un wedi ymroi i wneud M-SParc yn llwyddiant. Mae’r tîm wedi gweithio’n galed iawn i gyflawni’r adeilad ar amser ac yn unol â’r gyllideb, a bydd ein gwaith yn awr yn canolbwyntio ar gynorthwyo’r cwmnïau sy’n denantiaid i ni i gyrraedd eu potensial gorau.”
Agorwyd y drysau`n swyddogol ar Fawrth 1af ac ar y 5ed bydd Google yno i roi gweithdy i fusnesau ar gyrraedd cwsmeriaid newydd. Mae’n rhan o gyfres o weithdai parhaus sy’n cael eu cynnig gan M-SParc i’w denantiaid, ac mae’r gweithdy hwn yn agored i’r holl gymuned fusnes. Ar Fawrth 24ain bydd M-SParc yn cynnal diwrnod agored i’r gymuned, er mwyn i’r cyhoedd gael galw heibio i weld beth sydd gan yr adeilad i'w gynnig.
Nid yn unig y mae M-SParc wedi cyflawni’r prosiect hwn ar amser ac o fewn y gyllideb ond maent wedi darparu cyfleoedd a all newid bywydau fel rhan o’r broses adeiladu. “Bu’r gymuned yn gefnogol iawn i’n gwaith, yn dilyn ymgynghoriadau cyhoeddus yn y blynyddoedd cynnar.” Aeth Mr Jones ymlaen “Rydym ninnau wedi darparu prentisiaethau lleol, profiad gwaith i ddisgyblion ysgol, sgyrsiau ar ddiogelwch a gweithdai ar gyfer y coleg lleol, interniaethau ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Bangor, a chyfleusterau ystafell newid ar gyfer y tîm pêl-droed lleol. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r gymuned wrth i ni weithredu.”
Dywedodd yr Athro John G. Hughes, Is-ganghellor y Brifysgol: “Mae’r gwaith a wnaed hyd yma wedi bod yn drawiadol. Mae M-SParc eisoes wedi derbyn Tenantiaid Rhithiol, rhai ohonynt wedi manteisio ar y cyswllt â Phrifysgol Bangor, ac yn gweithio gydag ymchwilwyr yn rhai o’n hadrannau.
Bydd M-SParc o fudd i’n myfyrwyr hefyd, gan fod rhai o’n cyrsiau meistr yn cael eu teilwra i sicrhau bod gan ein graddedigion y sgiliau y bydd cyflogwyr yn M-SParc yn chwilio amdanynt. Bydd hyn yn mynd beth o’r ffordd tuag at lenwi’r bwlch sgiliau yn y rhanbarth, a bydd M-SParc yn gwneud ei orau i sicrhau y daw cyfleoedd am swyddi i’r ardal i ddefnyddio’r sgiliau hyn.”
Cyhoeddodd Mr Jones ei ymddeoliad yn ddiweddar, ac yn y gwanwyn bydd y Parc yn cyhoeddi Cyfarwyddwr newydd i arwain y cam gweithredol.
Gellir cael rhagor o wybodaeth ar wefan M-SParc (www.m-sparc.com) neu drwy anfon e-bost at post@m-sparc.com.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mawrth 2018