Gwyddonwyr Bangor yn arwyddo llythyr at ddynoliaeth
Mae gwyddonwyr o Fangor ymhlith 15,364 o wyddonwyr o 184 o wledydd ledled y byd sydd wedi arwyddo ‘llythyr o rybudd’ at ddynoliaeth ynglŷn â’r sefyllfa ddybryd sydd yn ein hwynebu.
Mae’r llythyr yn dilyn “Rhybudd gwyddonwyr y byd at ddynoliaeth” a gyhoeddwyd 25 mlynedd yn ôl, a oedd yn galw ar ddynoliaeth i gwtogi ar ddinistr amgylcheddol gan rybuddio bod angen ‘newid fawr yn ein stiwardiaeth i’r bywyd sydd arni, os yr ydym am osgoi trallod dynol ar raddfa enfawr.’
Mae’r llythyr newydd yn adolygu cynnwys y llythyr gwreiddiol ac yn canfod ein bod ond wedi llwyddo i ddatrys neu wella un o’r problemau a adnabuwyd bryd hynny – sef y twll yr ôson. Mae pob un o’r heriau eraill a adnabuwyd wedi aros heb eu datrys neu wedi gwaethygu.
“Rydym yn rhoi ein dyfodol yn y fantol wrth beidio â ffrwyno ein defnydd dwys o adnoddau, a’r defnydd hynny’n anwastad a gwasgaredig yn ddaearyddol ac yn ddemograffig, a thrwy beidio â gweld fod twf chwim yn y boblogaeth yn brif yriant i’r nifer o fygythiadau ecolegol a chymdeithasol,” medd y llythyr. Mae’r llythyr yn mynd ati i ddisgrifio’r camau y gellid ei gymryd i ymdrin â’r materion hyn.
Mae Peter Haswell, sydd yn Gynorthwy-ydd addysgu graddedig ac ymchwilydd PhD yn yr Ysgol Gwyddorai Biolegol ac un sydd wedi arwyddo’r llythyr, hefyd wedi ei gydnabod am gyfrannu un o’r ffeithiau sy’n ymddangos ynddo.
Meddai:
"Os oes modd gwneud hynny, rwy’n dymuno symud sylw pawb tuag at ragolwg mwy gobeithiol ar y materion sy’n wynebu dynoliaeth a’u hannog i sylweddoli bod eu gweithgareddau fel unigolion yn cyfrif.
Tra bod y rhybudd yn ymddangos yn bur ddigalon, mae hefyd yn cario llawer o anogaeth a gobaith. Mae pwyntiau gweithredu yn y llythyr sy’n darparu pawb gyda ffyrdd o fod yn rhan o greu dyfodol mwy gobeithiol.”
Roedd fy nghyfraniad at yr erthygl yn un bach iawn (Examples of diverse and effective
steps humanity can take to transition to sustainability include the following (point J): divesting of monetary investments and purchases to encourage positive environmental change) ond rwy’n hynod falch o gael cydnabyddiaeth am gynorthwyo’r awduron i gyfleu’r negeseuon hollbwysig hyn.
Mae gennym oll ryw lefel o reolaeth dros y modd yr ydym yn byw ein bywydau, y llefydd yr ydym yn cynilo ein harian a’r cynnyrch yr ydym yn ei brynu. Petai digon o unigolion yn gweithredu, yna gallwn wneud newid amgylcheddol positif a gwyrdroi difrod. Os ydym eisiau annog cwmni neu sefydliad i achosi llai o niwed amgylcheddol, yna mae gan pob un ohonom y grym i beidio a rhoi ein harian iddynt nes eu bod yn lleihau eu heffaith. Yn yr un modd, gallwn annog rhai sydd yn cymryd camau positif drwy eu cefnogi â’n pryniant a’n buddsoddiad. Fel unigolion, gallwn gyfrannu at newid positif mawr, yn enwedig os yr ydym yn annog a chefnogi ein gilydd yn y gymuned fyd-eang."
Darllenwch y papur llawn yma:
http://scientists.forestry.oregonstate.edu/sites/sw/files/Warning_article_with_supp_11-13-17.pdf
Dyddiad cyhoeddi: 17 Tachwedd 2017