Gwyddonwyr Bangor yn cyfrannu at ymdrechion i leihau dinistr amgylcheddol a thlodi ym Madagascar
Mae Prifysgol Bangor yn arwain astudiaeth ymchwil ar sut mae tlodi'n cysylltu'n agos â chyflwr yr amgylchedd mewn gwledydd megis Madagascar. Nod y project ymchwil yw helpu i ddeall y cysylltiadau rhwng tlodi a dinistrio coedwigoedd glaw trofannol ac mae'n dod â gwyddonwyr o Madagascar, y Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau a'r Iseldiroedd at ei gilydd.
Mae pobl yn elwa llawer o fyd natur. Er enghraifft mae gwaith peillwyr megis gwenyn yn helpu ffermwyr i dyfu cnydau, tra gall plannu coed ar dir uchel atal erydu a llifogydd yn is i lawr yr afon. Mae'r cysylltiad hwn rhwng cyflwr yr amgylchedd a lles hyd yn oed yn fwy amlwg mewn gwledydd sy'n datblygu lle mae'r mwyafrif helaeth yn byw bywydau sy'n hynod o ddibynnol ar eu hamgylchedd a lle mae ganddynt lai o adnoddau wrth gefn ar adegau pan fydd llifogydd neu pan fydd cnydau'n methu. Er enghraifft . Mae ei lafur caled yn talu ac mae'n gallu gwerthu ychydig o reis sydd ganddo dros ben. Ond mae ffermwyr sy'n tyfu reis ar lawr y dyffryn yn gweld bod eu cynhaeaf yn mynd yn llai wrth i fwy a mwy o'r goedwig ar y llethrau gael ei chlirio, wrth i ddŵr brinhau yn ystod y tymor sych, ac mae llai a llai o flynyddoedd da.
Mae project p4ges (a all talu 4 gwasanaeth ecosystem byd-eang leihau tlodi) yn cynnwys ymchwilwyr ag arbenigedd mewn hydroleg, economeg, cymdeithaseg ac ecoleg a'i nod yw dylanwadu ar bolisi amgylcheddol ym Madagascar a lleoedd eraill. Cefnogir yr ymchwil hon gan raglen ymchwil Llywodraeth y Deyrnas Unedig Ecosystem Services for Poverty Alleviation (ESPA).
Yn lansiad y project yn ddiweddar ym mhrifddinas Madagascar, Antananarivo, cafwyd anerchiadau gan Lysgennad y Deyrnas Unedig, ac uwch gynrychiolwyr Gweinyddiaeth yr Amgylchedd a'r Weinyddiaeth Addysg Uwch ym Madagascar.
Meddai Timothy Smart, Llysgennad y Deyrnas Unedig ym Madagascar:
"Sylweddolir fwyfwy, ni waeth pa mor ddatblygedig yw gwlad, bod lles pobl yn gysylltiedig â chynnal a chadw'r amgylchedd. Mewn gwlad fel Madagascar lle mae miliynau o bobl yn byw bywydau'n sy'n dibynnu'n drwm ar ffermio ar raddfa fach a chasglu cynnyrch o'r gwyllt, mae'r cyswllt hwn rhwng lles dynol a chyflwr yr amgylchedd yn boenus o amlwg."
Meddai'r Athro Ramamonjisoa, un o arweinwyr y project ym Madagascar “Mae hwn yn broject ymchwil arbennig o bwysig ac rydym wrth ein bodd yn cael gweithio gyda'r arbenigwyr o Brifysgol Bangor."
Meddai Dr Julia Jones, sy'n arwain y project o Brifysgol Bangor; Mae diddordeb cynyddol yn rhyngwladol mewn defnyddio systemau sy'n ein galluogi i 'dalu' am wasanaethau ecosystem megis storio carbon, a chadwraeth i liniaru tlodi mewn cymunedau sydd yn dioddef effeithiau uniongyrchol hyn.
Er bod y taliadau hyn am wasanaethau ecosystem yn denu miliynau o ddoleri, a bod ymrwymiad i sicrhau eu bod yn llesol i bobl dlawd, erys chwestiynau ynghylch effaith cynlluniau cyfredol ar bobl dlawd a sut y gellid gwella'r cynlluniau hyn ymhellach. Trwy edrych yn fanwl ar y systemau ecolegol a chymdeithasol cymhleth sy'n gysylltiedig ag un ardal benodol cawn gymorth i ddarparu'r polisïau/ damcaniaethau y gellir eu haddasu mewn mannau eraill er lles eraill."
Mae Madagascar yn un o'r gwledydd tlotaf yn y byd. Mae bron i 80% yn byw ar lai na $1 y diwrnod. Mae'n enwog am ei bioamrywiaeth cyfoethog ond yn anffodus mae llawer o'r bioamrywiaeth hwnnw dan fygythiad mawr. Mae gan Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor gysylltiadau agos iawn â Madagascar. Mae uwch-ddarlithydd cadwraeth yr ysgol Dr Julia Jones wedi bod yn gweithio yn y wlad am 13 blynedd ac mae llawer o'i myfyrwyr a'i chydweithwyr Malagasy wedi dod i Fangor i gael hyfforddiant penodol. Mae myfyrwyr Bangor hefyd yn ymrwymedig i'r wlad a'r mis diwethaf codwyd £400 ganddynt i warchod coedwigoedd glaw Madagascar.
Cyllidir P4ges gan raglen ‘Ecosystem Services for Poverty Alleviation’ Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Pwrpas y rhaglen hon yw darparu gwybodaeth newydd sy'n dangos sut mae gwasanaethau ecosystem yn gallu lleihau tlodi a hybu lles tlodion y byd.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Tachwedd 2013