Gwyddonwyr Bangor yn ymchwilio sut orau i ofyn cwestiynau anodd
Mae gofyn i bobl a ydynt yn ymwneud ag unrhyw weithgaredd anghyfreithlon yn anodd, oherwydd mae’n bosib iawn na fydd rhai sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau felly eisiau taflu bai arnynt eu hunain. Mae rheoli adnoddau naturiol yn dibynnu’n aml ar ddylanwadu ar ymddygiad pobl, gan gynnwys ceisio atal gweithgareddau anghyfreithlon megis lladd rhywogaethau sydd dan warchodaeth. Fodd bynnag, mae meddwl am ffyrdd o gyflawni hynny’n anodd gan nad yw rhai sy’n torri’r gyfraith fel rheol eisiau datgelu pwy ydynt. Fe wnaeth gwyddonwyr yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth y Brifysgol lunio dull sensitif o ymchwilio er mwyn amcangyfrif faint o ffermwyr yn Ne Affrica oedd yn lladd anifeiliaid rheibus ar eu tir. Fe wnaethant ddarganfod bod bron 20% o ffermwyr wedi lladd llewpardiaid yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, sy’n ffigwr eithriadol uchel o ystyried bod y rhywogaeth hon yn lleihau mewn rhan helaeth o’i thiriogaeth.
Fe wnaethant ymchwilio hefyd i weld a all cwestiynau didramgwydd, megis ‘Faint o ffermwyr yn eich barn chi sy’n lladd llewpardiaid ar eu ffermydd?’ gael eu defnyddio i adnabod rhai sy’n torri’r gyfraith. Fe wnaethant ddarganfod y gall agwedd rhywun tuag at anifeiliaid rheibus ar eu tir, a’u hamcangyfrif o nifer eu cyd-ffermwyr y maent yn credu sy’n cyflawni gweithgareddau anghyfreithlon, gael eu defnyddio i adnabod y rhai sy’n torri’r gyfraith.
Meddai Freya St. John, y myfyriwr PhD a arweiniodd yr astudiaeth, “Mae cadwraeth yn llawer mwy na dim ond deall rhywogaethau a chynefinoedd. Mae’r bygythiadau sy’n wynebu rhywogaethau yn y gwyllt yn cael eu hachosi’n bennaf gan bobl, felly mae angen i ni ddarganfod ffyrdd o ddeall sut mae pobl yn gwneud penderfyniadau ac yn ymddwyn.”
Cyhoeddir y papur hwn yw wythnos hon yn Nhrafodion y Gymdeithas Frenhinol, Cyfres B.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Awst 2011