Gwyddonwyr Carbon yn mynd dan ddaear i chwilio am atebion
Bydd labordy tanddaearol anarferol, sydd am fod yr unig un o’i fath ym Mhrydain, yn cychwyn gwaith ym Mhrifysgol Bangor nes ymlaen eleni, gan alluogi gwyddonwyr i ganfod mwy am garbon sydd yn y pridd.
Mae’r Athro Thomas H. DeLuca a’i gydweithwyr, yr Athro Davey Jones a’r Athro Douglas Godbold o Ysgol yr Amgylchedd, Gwyddorau Naturiol a Daearyddiaeth, wedi ennill £150,000 mewn grant Wolfson ar gyfer ailwampio, drwy’r Gymdeithas Frenhinol. Defnyddir yr arian i ailwampio ac ail ddodrefnu’r labordy tanddaearol sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer astudio pridd a gwreiddiau (neu rhisotron) yng Ngardd Fotaneg Treborth, a’i newid i fod yn labordy tanddaearol ar gyfer astudio carbon.
Fel yr esbonia’r Athro Tom DeLuca: “mae mwy o garbon wedi’i storio mewn pridd nag unrhyw leoliad arall ar dir sych - mwy hyd yn oed nag sydd yn y planhigion eu hunain. Bydd priddoedd felly’n ystyriaeth o bwys wrth i Gymru geisio cwtogi’r cyfanswm o allyriadau carbon tŷ gwydr o 3% dros yr 20 mlynedd nesaf.
“Ganrifoedd yn ôl, dywedodd Leonardo daVinci ein bod; ‘yn gwybod mwy am symudiadau’r sêr yn y ffurfafen nac yr ydym am y pridd sydd dan ein traed.’ Mae hyn yn wir hyd heddiw! Mae gan wyddonwyr ddealltwriaeth gyfyngedig o sut y mae defnydd tir, amrywiaeth planhigion a newidynnau hinsawdd yn dylanwadu ar faint o garbon sy’n cael ei gadw neu ei ryddhau o’r pridd dros gyfnodau amser maith.”
Mae’r wobr o’r Gymdeithas Frenhinol a Sefydliad Wolfson wedi ei gwneud hi’n bosib i’r Brifysgol ailwampio’r rhisotron, sydd o arwyddocâd hanesyddol, i astudio storio carbon a’i throsiant yn ecosystemau’r pridd o’r gwaelod fyny. Bydd y rhisotron yn caniatáu i’r gwyddonwyr syllu i mewn i’r pridd yn ei leoliad o wylfa danddaearol. Bydd yr ailddodrefnu’n eu galluogi i gymryd mesuriadau a samplau o atmosffer y pridd, neu’r pridd mewn toddiad, neu’r gwreiddiau yn ddwfn o dan yr wyneb, heb orfod darfu ar y pridd ei hun.
Meddai’r Athro DeLuca: “Bydd y rhisotron ar ei newydd wedd yn hybu ymchwil newydd ac yn cynyddu’r astudiaethau sydd gennym ar hyn o bryd ar ddeinameg y carbon yn y pridd a rhwng y pridd a phlanhigion. Bydd hyn hefyd yn cynnwys sut y bydd ychwanegu bio-golosg at y pridd yn effeithio ar storio carbon yn y pridd, a nifer o agweddau eraill.
“Rydym yn credu y bydd Labordy Tanddaear Carbon Wolfson yn gyflenwad pwysig i isadeiledd ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, ac y bydd yn denu ymchwilwyr o amgylch y byd i astudio prosesau tanddaearol,” ychwanegodd.
Mae’r arian hefyd yn cynnwys ailwampio tŷ ar y safle fel swyddfa a chanolbwynt i reoli’r labordy.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2011