Gwyddonwyr Gwyddorau'r Eigion yn defnyddio system fapio gwely'r môr i helpu i leoli fferm wynt enfawr
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o baratoi'r ffordd i adeiladu un o ffermydd gwynt mwyaf y byd oddi ar arfordir gogledd Cymru.
Maent yn gweithio gyda RWE, cwmni ynni adnewyddadwy mawr o'r Almaen, ar leoliad estyniad o'r enw Awel y Môr, a fydd fwy na dwbl maint fferm wynt Gwynt y Môr, y bumed fwyaf y byd.
Mae eu harbenigedd mewn dulliau mapio gwely'r môr 3-D yn hanfodol wrth benderfynu ar leoliad y tyrbinau anferth ac wrth helpu i gynllunio at y genhedlaeth nesaf o ffermydd gwynt dŵr dwfn oddi ar arfordir gogledd Cymru.
Bydd Awel y Môr i'r dwyrain o Wynt y Môr a bydd yn fwy na dwbl ei maint. Mae Gwynt y Môr yn cynnwys 160 o dyrbinau sydd wedi eu gwasgaru ar draws 80 cilomedr sgwâr ym Mae Lerpwl.
Bydd gwaith Ysgol Gwyddorau'r Eigion y brifysgol yn mapio gwely'r môr oddi ar arfordir gogledd Cymru a Môr Iwerddon a'r Môr Celtaidd yn chwarae rhan allweddol yn uchelgais y llywodraeth i bweru pob cartref yn y wlad gydag ynni gwynt erbyn 2030.
Dyna ym marn Dr Katrien Van Landeghem, arbenigwr daeareg môr ym morffodynameg gwely'r môr, yw sut mae llawr cyfnewidiol y môr yn effeithio ar brojectau peirianneg gwerth biliynau o bunnoedd fel adeiladu fferm wynt.
Meddai Dr Van Landeghem, sy'n dod o Wlad Belg ond yn byw ym Mae Colwyn: “Mae Awel y Môr yn ddatblygiad enfawr ond bydd rhaid cael llawer mwy o ffermydd gwynt er mwyn i’r llywodraeth gyrraedd ei thargedau, gan gynnwys mewn dyfroedd dyfnach ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod y datblygiadau hyn yn gost-effeithiol ond yn gynaliadwy i wely’r môr a’r anifeiliaid y mae’n eu cynnal.
“Mae gwynt oddi ar yr arfordir yn mynd i fod yn hanfodol yn yr amserlen garlam hon i ddarparu ynni glân a rhad oherwydd ein bod yn gwybod bod y dechnoleg yn gweithio.
“Er mwyn cyflawni’r nodau ynni adnewyddadwy hyn erbyn 2030, bydd buddsoddiad mawr mewn ynni gwynt ond rwy’n gobeithio y bydd buddsoddiad mewn opsiynau eraill yn cynyddu hefyd, megis echdynnu ynni oddi ar yr arfordir.
“Beth bynnag, mae’n golygu y bydd rhaid i ni gymryd hyd yn oed mwy o ofal wrth ddatblygu gwely'r môr.”
Meddai Tamsyn Rowe, Rheolwr Project Awel y Môr RWE: “Rydym yn falch iawn o weld y rhaglen hon yn dechrau.
“Rydym eisiau sicrhau bod ein projectau’n cael eu datblygu mewn modd mor gyfrifol â phosib. Bydd gwynt oddi ar yr arfordir yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau dyfodol carbon isel i Gymru ac mae gwaith gwyddonwyr Prifysgol Bangor yn cyfrannu at hynny.”
Mae tyrbinau fferm wynt Gwynt y Môr yn sefyll 150 metr uwchben y môr ac yn cynhyrchu 576 megawat o drydan a bydd Awel y Môr yn cynnwys 200 o dyrbinau eraill.
O dan y tonnau maent yn ymestyn i lawr 30 metr gyda silindrau dur trwchus wedi eu hangori i wely'r môr o dan ddegau o fetrau o ddyfnder er mwyn gwrthsefyll grym y tonnau a'r llanw.
Ond fe allai tyrbinau’r genhedlaeth nesaf fod ymhellach allan yn y môr ac wedi eu hangori i wely'r môr gyda chadwyni 100 metr i lawr.
Casglwyd llawer o'r data a'r delweddau a ddefnyddiwyd gan RWE oddi ar long ymchwil y brifysgol, y Prince Madog, sy’n cael ei hangori ym Mhorthaethwy, ac sy'n treulio deugain niwrnod y flwyddyn yn teithio o amgylch arfordir Cymru yn mapio gwely'r môr.
Mae'n defnyddio system amlbelydr sy'n allyrru signalau sonar sy'n bownsio'n ôl i ddarparu delweddau anhygoel o fanwl o wely'r môr, sy'n dal i ddangos creithiau'r rhewlifoedd a deithiodd ar hyd wely'r môr yn ystod Oes yr Iâ, 25,000 o flynyddoedd yn ôl.
Mae gwely'r môr yn cynnwys twyni tywod mawr, rhai sawl metr o uchder, sy'n gallu symud gyda'r llanw a'r tonnau.
Dechreuodd Ysgol Gwyddorau’r Eigion arolygu gwely'r môr yn 2012 ac ers hynny maent wedi mapio cannoedd o filltiroedd sgwâr ac meddai Dr Van Landeghem: “Rhaid i ni sicrhau nad yw gwely'r môr yn cael ei niweidio ac mae hynny'n cynnwys bod yn ofalus wrth benderfynu ble i osod y ceblau sy'n cludo'r trydan a gynhyrchir yn ôl i'r lan.
“Rhaid i ni edrych ar wyneb gwely'r môr a'r cynefinoedd sydd ynddo oherwydd gall tonnau tywod fod yn niwsans go iawn a dyna lle mae cyfraniad geo-wyddonwyr yn bwysig oherwydd ein bod yn mapio'r rhannau hynny i ddangos sut mae'r tywod yn symud.
“Gallwn olrhain sut mae gwely'r môr wedi newid gan mai dyma'r rhyngwyneb sy'n dweud hanes y gorffennol wrthym ond mae hefyd yn dweud hanes y presennol a'r dyfodol mewn ffordd nad yw unrhyw beth arall yn ei wneud.
“Rhaid i ni gymryd samplau, fideo a lluniau oherwydd bod gwneud hynny'n rhoi gwybodaeth ddefnyddiol iawn i ni allu datblygu mwy ar wely'r môr.
“Er mwyn i hyn ddigwydd, mae'n bwysig ein bod i gyd yn cydweithio'n agos i sicrhau bod yr ymgais i newid yr ynni rydym yn ei ddefnyddio yn llwyddiant.”
Am fwy o wybodaeth am Ysgol Gwyddorau'r Eigion ewch i: https://www.bangor.ac.uk/oceansciences
Dyddiad cyhoeddi: 25 Tachwedd 2020