Gwyddonwyr yn dod o hyd i aur mewn corsydd ym Mhrydain
Gallai gwerth corsydd Prydain fod ar fin codi i’r entrychion, gan eu gwneud yr un mor werthfawr â thir fferm da.
Mae adolygiad gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cynyddol mawndiroedd ar farchnadoedd masnachu carbon a chyfreithiau rhyngwladol sydd â'r nod o fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Roedd yr ymchwil, dan arweiniad yr Athro Chris Freeman, yn dangos er bod mawndiroedd yn cynnwys ddwywaith cymaint o garbon â choedwigoedd y byd nad oes fawr ddim sôn amdanynt ym mholisi gwreiddiol y Cenhedloedd Unedig i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr - Protocol Kyoto.
Ond mae argoelion bod pethau’n mynd i newid yn 2013 pan fydd cam cyntaf y protocol yn dod i ben a chynllun newydd yn cymryd ei le.
Gallai newid o'r fath olygu bod y gwaith o warchod ac adfer mawndiroedd - sy'n cynnwys corsydd a ffeniau Prydain - yn troi’n fusnes proffidiol i lywodraethau a thirfeddianwyr.
Eglurodd Christian Dunn, myfyriwr ôl-raddedig a fu'n gweithio ar y gwaith ymchwil gyda'r Athro Freeman yn Labordy Carbon Wolfson ym Mangor,: "Mae mawnogydd yn rhyddhau symiau amrywiol o nwyon tŷ gwydr - yn fwyaf arbennig methan a charbon deuocsid - sy'n cyfrannu at gynhesu byd-eang.
"Ond os yw'r mawndiroedd hyn yn cael eu rheoli'n gywir gall leihau faint o’r nwyon hyn sy’n cael eu rhyddhau i'r atmosffer," meddai.
"Mae datblygiadau diweddar a phenderfyniadau sy’n ymwneud â Phrotocol Kyoto, ac unrhyw ragflaenydd iddo, yn golygu y gallai rhoi cyfrif am arbedion nwyon tŷ gwydr trwy reoli mawndiroedd ddod yn broffidiol iawn.
"Gallai Llywodraethau ddefnyddio 'stiwardiaeth carbon' mawndiroedd eu gwledydd i’w helpu i gyrraedd targedau lleihau allyriadau rhyngwladol a gallai sefydliadau greu credydau carbon swyddogol i’w masnachu ar y nifer cynyddol o farchnadoedd carbon."
Ychwanegodd Christian: "Mae corsydd Prydain yn llawer pwysicach nag y mae pobl yn sylweddoli ond mae gwerth ariannol gwirioneddol y tir yn gymharol isel.
"Ond gallai stiwardiaeth carbon mawndiroedd newid hyn ac efallai un diwrnod, byddwn yn gweld eu pris yn cyrraedd pris y tir amaethyddol gorau."
Dywedodd yr Athro Freeman: "Mae mawndiroedd Prydain yn cwmpasu ardal o 5,240,000 hectar - tua dwywaith maint Cymru - ac maent yn cloi tua 3,121 mega dunnell o garbon.
“Mae’n amlwg nad ydym ni ddim eisiau i’r carbon hwnnw gael ei ryddhau fel carbon deuocsid neu fethan, felly mae angen i ni edrych ar ôl ein mawndiroedd, ond gyda'r pwysau cyson ar dir mae angen cymhelliant i atal ein corsydd rhag cael eu draenio."
"Os bydd deddfwriaeth newid yn yr hinsawdd a masnachu carbon yn ei gwneud yn werth chweil i wledydd a sefydliadau edrych ar ôl eu mawndiroedd yna mae gennym dipyn mwy o siawns o warchod y tirweddau unigryw hyn a'r bywyd gwyllt sy'n byw ynddynt," ychwanegodd yr Athro Freeman.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Gorffennaf 2011