Gwyddonwyr yn galw am fwy o ymchwil i sut mae gweithgareddau dynol yn effeithio ar wely'r môr
Mae grŵp o wyddonwyr o'r Deyrnas Unedig, a gydlynir gan Brifysgol Southampton, wedi cyhoeddi ymchwil helaeth ar y ffordd mae diwydiant a newid amgylcheddol yn effeithio ar welyau ein moroedd. Fodd bynnag, dywedant bod angen gwneud mwy o waith i helpu i ddiogelu'r ecosystemau cymhleth hyn a'r manteision y maent yn eu rhoi i bobl at y dyfodol.
Mae ymchwilwyr o wyth sefydliad wedi cydweithio i archwilio rhannau o'r môr ar sgafell gyfandirol y Deyrnas Unedig er mwyn deall pa mor sensitif yw'r systemau hyn i weithgareddau dynol. Mae pwysigrwydd yr ecosystemau hyn i gymdeithas yn fwy na dim ond cynhyrchu bwyd - maent yn ymwneud â bioamrywiaeth, cylchynu a storio carbon, cael gwared ar wastraff, cylchynu maetholion, hamdden ac ynni adnewyddadwy.
Meddai Martin Solan, prif ymchwilydd ac Athro Ecoleg Môr ym Mhrifysgol Southampton: "Mae gwelyau ein moroedd yn heigio o fywyd, o organebau microsgopig i greaduriaid mwy fel pysgod a chrancod. Maent i gyd yn rhyngweithio fel rhan o system gymhleth sy'n chwarae rhan allweddol o ran diogelu iechyd gwely'r môr a gweddill y we fwyd."
"Mae ymyrraeth ddynol, fel pysgota, llygredd a gweithgareddau sy'n achosi newid hinsawdd i gyd yn effeithio ar yr ecosystemau hynod gytbwys hyn. Mae ein hymchwil gyfunol yn rhoi golwg newydd i ni ar y ffordd mae gwely'r môr yn cael ei addasu, er gwell neu er gwaeth. Ond mae angen rhagor o ymchwil yn awr i ddeall canlyniadau hir-dymor y fath newid i'r amgylchedd ehangach ac i gymdeithas yn gyffredinol."
Astudiodd gwyddonwyr o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor effeithiau ymyrraeth ddynol, o weithgareddau megis treillio ar hyd gwely'r môr a'i effaith ar ailgylchu nitrogen ar welyau môr tywodlyd a lleidiog. Fe wnaethant ganfod fod gweithgareddau megis treillio yn newid cymunedau anifeiliaid ar wely'r môr sydd, yn ei dro, yn effeithio ar gymunedau microbaidd sy'n gyfrifol am gylchynu nitrogen. Gall hyn, wedyn, effeithio ar brosesau eraill sy'n digwydd yn y golofn ddŵr.
Meddai Dr Marija Sciberras, awdur y papur ymchwil:
"Mae ein canlyniadau'n pwysleisio pwysigrwydd cyfansoddiad a strwythur y cymunedau infertebratau a microbaidd sy'n bodoli ar wely'r môr ar gyfer cynnal cydgyfnewid cemegau o fewn y gwaddodion hyn. Fe wnaethom ddangos hefyd y gall tarfu ar wely'r môr achosi tarfu ar swyddogaethau allweddol eraill ecosystem a gwasanaethau rhwng y golofn ddŵr ac amgylchedd gwely'r môr. Gall hyn, yn ei dro, effeithio ar gynhyrchiant ein moroedd a diwydiannau megis pysgodfeydd."
Meddai Dr Phil Williamson o Brifysgol East Anglia, a helpodd i gydlynu'r rhaglen ymchwil hon: "Mae llawer o'r hyn sy'n digwydd yn y môr allan o'r golwg ac felly nid yw'r mwyafrif o bobl yn ymwybodol ohono. Mae'r astudiaeth yma wedi rhoi golwg fanwl inni ar y prosesau ailgylchu naturiol sy'n llythrennol wrth wraidd ecosystemau môr, gan fod yn sail llawer o'r manteision rydym yn eu cael o'r môr."
Cynhaliwyd y gwahanol brojectau a gaiff sylw yn rhifyn arbennig Biogeochemistry ar dair mordaith ymchwil benodol ac ymchwiliadau eraill o amgylch y Deyrnas Unedig. Mae'r ymchwil yn rhan o rifyn arbennig o'r cyfnodolyn gwyddonol Biogeochemistry ac yn cynnwys cyfraniadau gan University of Southampton, the Centre for Environment, Fisheries and Aquaculture Science (CEFAS), the National Oceanography Centre (NOC), University of Portsmouth, University of Oxford, Prifysgol Bangor, Plymouth Marine Laboratory a The Scottish Association for Marine Science (SAMS).
Mae'r Shelf Sea Biogeochemistry Special Issue i'w gael yn: https://link.springer.com/journal/10533/135/1/page/1
Roedd yr ymchwil yn rhan o'r rhaglen Shelf Sea Biogeochemistry, http://www.nerc.ac.uk/research/funded/programmes/shelfsea/ sy'n ymchwilio i'r ffordd mae prosesau naturiol a dynol yn rhyngweithio yn y moroedd o amgylch y Deyrnas Unedig.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Medi 2017