Gwyddonwyr yn galw am weithredu i fynd i'r afael â bygythiad rhywogaeth coed ymledol i fan pwysig mewn bioamrywiaeth byd-eang
Yn ôl ymchwil newydd ar y cyd rhwng Landcare Research yn Seland Newydd, Prifysgolion Caergrawnt a Denver, a Phrifysgol Bangor, mae coeden ymwthiol sy'n frodorol i Awstralia yn awr yn achosi bygythiad difrifol i fan pwysig mewn bioamrywiaeth byd-eang.
Plannwyd y rhywogaeth hon, Pittosporum undulatum, a elwir yn oren ffug yn lleol, mewn gardd fotaneg yn y Blue Mountains yn Jamaica yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fel mae'r enw lleol yn ei awgrymu, mae gan y goeden hon, sy'n tyfu'n gyflym a chyda dail sgleiniog, ffrwyth oren llachar yn cynnwys llawer o hadau bychain wedi'u gorchuddio â haen ludiog siwgwraidd. Mae'r rhain yn cael eu gwasgaru'n helaeth gan rywogaethau adar brodorol Jamaica ac mae'r planhigyn o ganlyniad wedi bod yn goresgyn cynefinoedd newydd yn hynod gyflym. I ddechrau, fe wnaeth y rhywogaeth gymryd drosodd dir a oedd wedi'i adael ar ôl tyfu coffi a chnydau coed eraill, ond yn fwy diweddar mae wedi ehangu i goedwigoedd naturiol y Blue and John Crow Mountains National Park. Cyflymwyd yr ymlediad hwn gan y difrod a achoswyd i'r coedwigoedd gan Gorwynt Gilbert 29 mlynedd yn ôl, ac mae'n debygol y bydd corwyntoedd mawr yn y dyfodol yn gwneud pethau'n waeth.
Mae'r parc cenedlaethol yn ganolbwynt bioamrywiaeth sydd o bwys byd-eang. Ceir yno lawer o rywogaethau prin a dan fygythiad, yn cynnwys tegeirianau, glöynnod byw ac adar, ac ni cheir rhai ohonynt yn unman arall yn y byd ac eithrio coedwigoedd mynyddoedd Jamaica.
Wrth astudio'r coedwigoedd hyn am gyfnod o 40 mlynedd, daeth yr ymchwilwyr ar draws cynnydd cyson yn niferoedd y Pittosporum ymledol, fel ei fod yn awr yn fwy na 10% o'r holl foncyffion coed.
Eglurodd John Healey, Athro Gwyddorau Coedwig ym Mhrifysgol:
"Dros y 24 mlynedd ddiwethaf roedd difrifoldeb yr ymlediad hwn yn gysylltiedig â gostyngiad yn amrywiaeth rhywogaethau planhigion brodorol, yn cynnwys rhywogaethau nad ydynt i'w cael ond yn Jamaica. Y rhain yw'r flaenoriaeth uchaf o ran cadwraeth. Mae'r 'oren ffug' yn tyfu'n gyflymach na'r rhan fwyaf o goed brodorol, ac mae eu deiliach trwchus yn taflu cysgod tywyll dros eginblanhigion brodorol gan gyfyngu'n ddifrifol ar eu gallu i atgynhyrchu."
Cyflwynir y canlyniadau hyn mewn papur a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn rhyngwladol Biological Conservation.
Mae'r astudiaeth hon yn rhoi tystiolaeth dda i ddarogan y bydd y bygythiad hwn i fioamrywiaeth Blue Mountains Jamaica yn cynyddu, yn arbennig ar ôl i'r corwynt nesaf achosi difrod sylweddol i ganopi'r goedwig naturiol.
Un grŵp o rywogaethau planhigion sydd dan fygythiad yw'r 'bromeliadau', sy'n tyfu ar foncyffion coed brodorol ond na allant dyfu ar risgl llyfn yr oren ffug. Ynghanol eu rhosedau o ddail mae ganddynt bant llawn dŵr sy'n gartref i bryfetach sy'n ffynhonnell bwysig o fwyd i'r aderyn du Jamaicaidd sydd dan fygythiad. Dyma'r rhywogaeth aderyn sydd dan fygythiad mwyaf yn y Blue Mountains.
Os cânt eu gweithredu nawr, gall mesurau cadwraeth helpu i osgoi'r trychineb bioamrywiaeth byd-eang hwn, yn Jamaica ac mewn llawer o fannau pwysig i fioamrywiaeth ledled y byd sy'n cael eu bygwth gan rywogaethau ymledol. Fodd bynnag, maent yn cael eu dal yn ôl gan ddiffyg adnoddau.
Cafwyd yr apêl ganlynol gan Peter Bellingham y prif ymchwilydd:
"O ystyried cryfder ein tystiolaeth o ganlyniadau difrifol yr ymlediad hwn i fioamrywiaeth, rydym yn annog y sefydliadau perthnasol yn Jamaica, a chyrff cyllido rhyngwladol, i flaenoriaethu rhaglen o reoli'r rhywogaeth hon. Rydym yn sicr y bydd ymyriad cyflym ar hyn o bryd yn gost effeithiol iawn, gan leihau costau llawer mwy ceisio adfer y coedwigoedd brodorol os caniateir i'r ymlediad ymledu ymhellach."
Dyddiad cyhoeddi: 2 Ionawr 2018