Gwyddonydd blaenllaw i dderbyn Medal Frenhinol
Mae cemegydd Prydeinig blaenllaw a gychwynnodd ar ei yrfa ym Mhrifysgol Bangor yn un o dri sydd i dderbyn Medal Frenhinol eleni.
Mae Syr John Meurig Thomas Hon FREng FRS i’w anrhydeddu gyda Medal Frenhinol yn 2016 am ei waith arloesol mewn cemeg catalytig, ac yn arbennig ar waith catalydd heterogenaidd un-lleoliad, sydd wedi gwneud argraff fawr ar gemeg werdd, technoleg lân a chynaliadwyedd.
Roedd Syr John ymysg y cyntaf i dderbyn Gradd er Anrhydedd gan y Brifysgol ar achlysur dathlu 125ain pen-blwydd y sefydliad. Mae yn Athro er Anrhydedd mewn Cemeg Cyflwr Solet, Prifysgol Caergrawnt, ac yn gyn Feistr Coleg Peterhouse, Caergrawnt. Cychwynnodd Syr John Meurig Thomas ar ei yrfa academaidd yn dysgu ac ymchwilio yn Ysgol Gemeg y Brifysgol yn 25 oed yn y 50au hwyr.
Dyfarnir tair Medal Frenhinol, a elwir hefyd yn Fedal y Frenhines, yn flynyddol gan y Frenhines neu Frenin ar argymhelliad Cyngor y Gymdeithas Frenhinol. Ymysg y gwyddonwyr blaenllaw sydd wedi derbyn y Fedal Frenhinol yn y gorffennol mae Frederick Sanger FRS, Max Perutz FRS a Francis Crick FRS.
Dyfernir dwy Fedal pob blwyddyn am y cyfraniadau pwysicaf “at ymestyn Gwybodaeth Naturiol” yn y gwyddorau ffisegol a biolegol. Mae trydedd Medal yn gwobrwyo cyfraniad neilltuol mewn gwyddorau cymhwysol.
Sefydlwyd y Medalau Brenhinol gan y Brenin Siôr IV yn 1825. Rhwng 1826 a 1964 dyfernid dwy fedal yn flynyddol. Cyflwynwyd medal newydd dros y gwyddorau cymhwysol ar ran E M Y Frenhines yn 1965.
Croesawodd Dr Mike Beckett, Pennaeth yr Ysgol Gemeg y newyddion gan ddweud:
“Mae gan yr Ysgol Gemeg yma hanes hir a nodedig. Anrhydeddwyd nifer o’n Hathrawon cyntaf yn Gymrodyr y Gymdeithas Frenhinol (FRS), ac mae staff a myfyrwyr wedi gwneud cyfraniad sylweddol i gemeg dros y degawdau.
Rydym wrth ein boddau bod Syr John i dderbyn yr anrhydedd ac yn ymfalchïo yn ei gysylltiad agos a pharhaus â’r Ysgol Gemeg a’i gefnogaeth iddi.”
Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2016