Gwyddonydd Morol o’r radd gyntaf!
Mae gan un o fyfyrwyr Prifysgol Bangor, Philip Hollyman, ddau reswm i ddathlu’r haf yma. Nid yn unig ydyw wedi graddio gyda gradd Dosbarth Gyntaf ond mae hefyd wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobr IMarEST Wales Prize: Marine Scientist of the Year mewn cydnabyddiaeth o’i waith caled a’i lwyddiant academaidd.
Mae Philip, 22, sy’n derbyn gradd Feistr mewn Bioleg Forol yn arbenigwr plymio SCUBA. Penderfynodd astudio ym Mangor oherwydd enw da’r Brifysgol yn y gwyddorau morol ac oherwydd lleoliad Bangor, galluogodd iddo gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored yn ei amser rhydd.
Yn ystod ei gyfnod ym Mangor, cymrodd Philip ran mewn projectau ymchwil a hwyliodd ar long ymchwil y Brifysgol, y Prince Madog sawl gwaith. Yn ogystal bu’n gwirfoddoli yn Sw Mor Môn.
Meddai Philip, “Roedd fy nghwrs gradd yn gwrs Meistr israddedig, sydd yr un peth a chwrs gradd arferol ond bod blwyddyn ychwanegol ar y diwedd sy’n canolbwyntio ar broject ymchwil unigol.
“Yn ystod yr ail flwyddyn, teithiais i America i astudio am bythefnos yn y Virginia Institute of Marine Science (VIMS), oedd yn brofiad anhygoel. Roedd blwyddyn olaf y cwrs hefyd yn arbennig o wobrwyol, er iddo fod yn waith caled, am i mi allu cymryd rhan mewn project anferth wedi ei ariannu gan Ewrop o’r enw’r (Sustainable and Environmentally friendly Aquaculture For the Atlantic Region of Europe), yn gweithio ar wystrys ymledol y Pacific.
“Roedd gweithio ar y project yma’n gyfle i mi deithio i nifer o leoliadau ar hyd Prydain ac Iwerddon ac roedd yn gyfle i mi weithio gydag ymchwilwyr ffantastig fel fy ngoruchwyliwr Dr John Turner a Dr Delphine Lallias.
“Mae’n deimlad arbennig i raddio ar ôl pedair blynedd o waith caled iawn. Ond dwi’n falch iawn ei fod o drosodd!”
Cafodd Philip ei enwebu ar gyfer y wobr IMarEST Wales Prize: Marine Scientist of the Year gan ei diwtor, Dr John Turner.
Eglurodd Dr Turner pam fod Philip yn haeddiannol o’r Wobr gan ddweud, “Roedd Philip yn llwyddiannus yn ei broject ymchwil am ei fod wedi adnabod y cwestiynau oedd angen eu hateb gyda’i ymchwil, a’i fod yn drylwyr yn cynllunio’i waith maes i ddod o hyd i’r atebion. Roedd hefyd yn hyblyg i newid ei gynlluniau.
“Yn ogystal, roedd yn mwynhau ei waith a gweithio gyda thîm. Dyma’r sgiliau mae cyflogwyr eu heisiau felly rwy’n sicr bydd Philip yn llwyddo yn ei yrfa fel gwyddonydd morol.”
Yn ystod yr Haf bydd Philip yn dychwelyd i’r Virginia Institute of Marine Science i astudio wystrys yn ecosystem bae Chesapeake.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Gorffennaf 2011