Gŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Gogledd Cymru Dydd Llun 1af – Dydd Sul 7fed Hydref, 2012
Gŵyl yn dod a feridd rhyngwladol i'r rhanbarth. Mae'r digwyddiadau wedi'u rhestru'n unigol ar ein gwefan Digwyddiadau.
Dyma gyswllt at wefan yr Ŵyl.
www.northwalesinternationalpoetryfestival.org www.gwylfarddoniaethryngwladolgogleddcymru.org
Yr Hydref hwn gwelwn feirdd rhyngwladol blaengar yn mentro i ogledd Cymru ac yn eu sgil daw ystod eang o ieithoedd, o'r iaith Roeg i’r Galiseg, i gynnal dialog â’r Gymraeg a’r Saesneg. Bydd rhaglen anghyffredin, a drefnwyd gan Dr Zoe Skoulding o Brifysgol Bangor ar y cyd â Thŷ Cyfieithu Cymru, yn ymestyn y tu hwnt i Fangor i gwmpasu Machynlleth, Aberystwyth, a’r Wyddgrug. Bydd yn mynd â barddoniaeth ar daith gynhyrfus, gyda’r digwyddiadau y tro hwn yn cael eu cynnal nid yn unig mewn siopau llyfrau, llyfrgelloedd, amgueddfeydd a theatrau, ond hefyd ar bier Bangor ac yn siopau’r stryd fawr.
Cynhelir darlleniadau ym mamiaith y beirdd, gyda chyfieithiadau i’r Gymraeg a’r Saesneg i gynorthwyo rhai ohonom. Bydd beirdd o Gymru hefyd yn cymryd rhan yn y ddwy iaith - gan ddod â dimensiwn lleol i’r cynulliad rhyngwladol hwn. Bydd cyfieithwyr i’r Gymraeg yn cynnwys Dr Angharad Price a Dr Aled Llion Jones, sydd wedi paratoi cyfieithiadau uniongyrchol o’r Almaeneg a’r Bwyleg yn unswydd ar gyfer y digwyddiad hwn, a byddant yn cyd-gyflwyno darlleniadau ym Mangor.
Mae’r rhestr drawiadol o ysgrifenwyr sy’n ymweld yn cynnwys: Eduard Escoffet (Catalonia); Estíbaliz Espinosa (Galicia); Julia Fiedorczuk (Gwlad Pŵyl); Katerina Iliopoulou (Groeg); Cia Rinne; (Sweden/Y Ffindir/Yr Almaen); Morten Søndergaard (Denmarc); Jeroen Theunissen (Gwlad Belg); Anja Utler (Yr Almaen) a Yu Jian (Tseina).
Ymysg y beirdd o Gymru fydd yn cymryd rhan fydd Tony Conran, Samantha Wynne-Rhydderch, Ian Gregson, Twm Morys ynghyd â’r beirdd a enwebwyd ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2012 - Ifor ap Glyn, Karen Owen a Gerwyn Williams.
Yng ngeiriau Dr Zoë Skoulding, sydd yn fardd ei hun ac yn olygydd Poetry Wales, trefnydd yr ŵyl, “Mae barddoniaeth yn aml ynghylch dod â sŵn ac ystyr geiriau at ei gilydd mewn ffyrdd anghyffredin. Mae gwrando ar ieithoedd eraill yn y cyd-destun dwyieithog hwn yn ffordd o ymchwilio i gyfoeth ein diwylliant ein hunain yn ogystal â’i agor allan i syniadau newydd. Rydw i wrth fy modd yn gallu croesawu beirdd rhyngwladol o fri nid yn unig i Brifysgol Bangor, lle bydd yr holl ddigwyddiadau’n agored i’r cyhoedd, ond hefyd i’r gymuned ehangach a wasanaethir gan y brifysgol.”
Trefnwyd Gŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Gogledd Cymru ar y cyd gan Poetry Wales a Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd/Tŷ Cyfieithu Cymru. Cefnogwyd yr Ŵyl gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Prifysgol Bangor, Llenyddiaeth ar draws Ffiniau, Cyfnewidfa Lên Cymru, Prifysgol Aberystwyth, y Cyngor Prydeinig ynghyd ag amrywiol sefydliadau tramor a restrir ar wefan yr ŵyl: www.northwalesinternationalpoetryfestival.org
Am wybodaeth bellach cysylltwch ag: admin@northwalesinternationalpoetryfestival.org
Dyddiad cyhoeddi: 27 Medi 2012