Gŵyl Ffilm Cymru a'r Byd yn Un yn cyrraedd Bangor
Ers iddo gael ei sefydlu, mae Gŵyl Ffilm Cymru a'r Byd yn Un (Wales One World Film Festival), wedi dathlu gydag angerdd a brwdfrydedd holl gyfoeth sinema'r byd.
Nod yr Ŵyl yw creu a chynnal gŵyl ffilm deithiol drwy Gymru sy'n dod ag ystod arbennig o ffilmiau bydeang i sinemàu ar draws y wlad, ac am y tro cyntaf yn ei hanes ar ddiwedd mis Mawrth, fe fydd yr Ŵyl yn partneriaethu â Sinema Pontio, yma ym Mangor rhwng 26 Mawrth a 1 Ebrill.
Meddai Emyr Glyn Williams, cydlynydd Sinema Pontio, "Gyda phoblogrwydd y dangosiadau diweddar o'r ffilm gydag isdeitlau o Gorea PARASITE (Y Ffilm Orau eleni yn yr Oscar) yn glir yn y cof, mae'n amlwg fod 'na awch am sinema byd yn lleol, ac mae'r penwythnos hir yma o ffilmiau yn cynnig digon o gyfleoedd i'n cynulleidfaoedd ni ddarganfod pob math o straeon newydd a steiliau o sinema, gyda ffilmiau o Swdan, y Weriniaeth Tsiec, Kyrgyzstan, India, Yr Eidal, Bangladesh, Tibet, Peru, Siapan, Yr Almaen a Tunisia. Er bod y ffilmiau yma wedi'w creu ymhell o ffatrïoedd breuddwydion Hollywood, maent i gyd yn adrodd straeon grymus sy'n taflu golau ar y byd a'r ffordd yr ydym yn byw heddiw. Straeon am gyfyng-gyngor sy'n rhaid gwynebu, y dewisiadau sy'n rhaid eu gwneud ac - mewn gair - emosiwn - heb os, prif thema y Sinema gorau, ble bynnag mae bodau dynol yn penderfynu ei greu!"
"Un digwyddiad ffilm arall sy'n dangos i ni pa mor fach yw'r byd mewn gwirionedd yw'r ddarlith gyhoeddus hir-ddisgwyliedig gan y dylunydd graffeg Annie Atkins. Mae Annie yn un o raddedigion y Cwrs Sylfaen Celf yn Coleg Menai Bangor ac yn artist sydd wedi ennill Oscar, ac ar hyn o bryd yn gweithio'n galed ar gampwaith ddiweddaraf Wes Anderson, a fedrwn ni ddim aros i glywed rhai o'i chyfrinachau.
"Does dim thema mawr sy'n cwmpasu rhaglen Mawrth, heblaw efallai'r amrywiaeth anhygoel a syfrdanol sy'n bosib ei brofi ar sgrîn sinema pob wythnos o'r flwyddyn - o straeon go iawn cantorion y MILITARY WIVES i'r dynion busnes amheus yn DARK WATERS, ac o'r negeseuon optimistaidd yn 2040 a THE PEANUT BUTTER FALCON i'r bennod nesaf yn hanes asiant go enwog yn y gwasanaethau cudd..."
Mae Sinema Pontio ar agor 7 diwrnod yr wythnos, archebwch eich sedd arlein, dros y ffôn neu yn y swyddfa docynnau
Rhaglen lawn Y Byd yn Un: https://issuu.com/pontio/docs/gwefan_pontio_one_world_films
Rhaglen Mawrth: https://issuu.com/pontio/docs/gwefan_pontio_sinema_mawrth_2020
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mawrth 2020