Gŵyl Gerdd Newydd Bangor 12 – 15 Mawrth 2014
Wrth i Ŵyl Gerdd Newydd Bangor edrych ymlaen at ei phedwaredd gŵyl ar ddeg o gerddoriaeth gyfoes, byddwn yn dathlu 450 mlwyddiant geni William Shakespeare. Gŵyl dros bedwar diwrnod fydd Gŵyl 2014, gyda nifer o ddigwyddiadau amrywiol megis cyngherddau, gweithdai, darlithoedd a chynhadledd INTER/actions.
Mae’r Ŵyl yn agor gyda Madeleine Mitchell ar y ffidil, ddydd Mercher, Mawrth 12fed yn Neuadd Powis, Prifysgol Bangor a chawn glo teilwng iawn ddydd Sadwrn, Mawrth 15 gyda pherfformiad cyffrous oMantra gan Karlheinz Stockhausen, fel rhan o gynhadledd INTER/actions.
Ddydd Iau, cynhelir dosbarth meistr gyda’r drymiwr jas amlwg, Asaf Sirkis, sy'n enedigol o Israel. Bydd cyngerdd yng nghwmni Pedwarawd Jas Asaf Sirkis ym mwyty’r Greeks Taverna ym Mangor uchaf ddiwedd y noson honno. Hefydd ddydd Iau, traddodir darlith addysgiadol gan y cyfansoddwr acwsmatig Natasha Barrett, gyda chyngerdd arbennig i ddilyn yn Neuadd Powis, yn defnyddio 32 uwchseinydd i greu seiniau amgylcheddol gofodol.
Ceir dathliad o thema Gŵyl 2014 ddydd Gwener 14fed gyda pherfformiadau cyntaf pedwar gwaith a ysbrydolwyd gan y bardd. O ddiddordeb arbennig,bydd cyngerdd awyr-agored gan Ensembl Gŵyl Gerdd Newydd Bangor yng nghanolfan Siopa Deiniol, Bangor dros yr awr ginio. Y cyfansoddwr gwadd, Robert Saxton sy’n traddodi’r ddarlith addysgiadol, ac i gloi, bydd perfformiad o'i Olygfeydd Shakesperaidd gan Orchestra of the Swan yn Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor. Ceir perfformiadau cyntaf o ddau waith comisiwn ar yr un rhaglen (Tŷ Cerdd a GGNB), arwydd o'n bwriad i hyrwyddo cyfansoddiadau a chyfansoddwyr newydd.
Medd Cyfarwyddwr yr Ŵyl, Guto Puw, “Rwyf yn edrych ymlaen yn arw tuag at y cyngherddau hynod gyffrous sydd yn ran o GGNB 2014. Braint yw hi i gael bod yn rhan o wŷl sydd yn cynnig ystod mor eang o berfformiadau gan artistiaid sydd mor uchel eu parch. Hoffwn ymestyn diolch i gymorth Cyngor Celfyddydau Cymru am ganiatau ni i wireddu Gŵyl mor arloesol a ddiddorol. Fel yr arfer, mae'r wŷl yn cydweithio yn glos â nifer o ddisgyblion ac ysgolion Gogledd Cymru, ond mae'r flwyddyn hon yn hyd yn oed fwy arbennig oherwydd yr holl gyfleon sydd ar gael i artistiaid ifanc i gyfansoddi a pherfformio cerddoriaeth gyfoes o dan arweiniad artistiaid proffesiynnol."
Tocynnau unigol ar gyfer y cyngherddau, gweithdai a dosbarthiadau meistr yn amrywio o £ 5 - £ 20 ac maent ar gael i'w prynu drwy'r wefan (www.bnmf.uk) neu o Palas Print, Stryd Fawr, Bangor. Am fwy o wybodaeth ewch www.bnmf.co.uk neu ffoniwch 01248 382181.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2014