Gŵyl gerddoriaeth electronig
Cyfle i fans cerddoriaeth wrando ar gerddorion rhyngwladol yn chwarae offerynnau rhyfedd a gwahanol yn ystod gŵyl gerddoriaeth electronig.
Bydd INTER/actions, symposiwm tri diwrnod sydd yn rhad ac am ddim i bawb, yn cael ei gynnal mewn amrywiaeth o leoliadau ym Mangor rhwng dydd Mawrth, Ebrill 10fed a dydd Iau, Ebrill 12fed.
Mae’r digwyddiad, sydd wedi cael ei drefnu gan Ysgol Gerdd Prifysgol Bangor, yn cynnwys cyngherddau, sesiynau arddangos gyda cherddorion yn chwarae offerynnau electronig anghyffredin yn ogystal ag amrywiaeth o arddangosfeydd cerdd ryngweithiol.
Dywedodd Dr Xenia Pestova, Pennaeth Perfformio o fewn yr Ysgol Gerdd: “Rydw I yn edrych ymlaen ac mae’r digwyddiad wedi tynnu llawer o sylw yn rhyngwladol. Mae pobl o bob cwr o’r byd yn dod yma i berfformio a dangos ei gwaith.
“Mae’r mathau o gelf a cherddoriaeth rydym yn rhaglennu yn pontio categorïau gwahanol iawn - celf fideo, celf amgylcheddol, dylunio offeryn digidol, gwaith addasiad ar y pryd, jazz / roc a pherfformiad cyfoes clasurol - a hyn i gyd yma ym Mangor.
“Rydym yn gobeithio croesawu gymaint o bobl o’r gymuned leol ac sydd bosib i ni gael rhannu rhywbeth gwahanol gyda nhw.”
Yn ogystal â chynnal digwyddiadau yn y Brifysgol, bydd staff o’r Ysgol Gerdd yn gweithio gyda Dinas Sain Bangor ar gyfer y digwyddiad ‘Pont Menai a Gwifrau Sain’ lle fydd Jodie Rose, artist sain o Awstralia, yn gosod meicroffonau ar Bont Menai.
Mae INTER/actions wedi ei drefnu ar y cyd gydag Electroacwstig Cymru, Risk of Shock, grwp ymchwul GEMINi a Dinas Sain Bangor.
Mae’r holl ddigwyddiadau am ddim ac yn agored i bawb.
I wylio fideo o Dr Xenia Pestova yn perfformio cliciwch yma
Mwy o wybodaeth
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2012