Gŵyl gerddoriaeth o Fangor yn ennill gwobr
Dewiswyd gŵyl gerddoriaeth Prifysgol Bangor ar gyfer New Music Biennial y PRS ac mae’r ŵyl hefyd wedi ennill £20,000 i gomisiynu gwaith newydd gan Arlene Sierra.
Cynhelir yr INTER/actions Festival of Interactive Electronic Music ym Mangor y flwyddyn nesaf ac fe’i dewiswyd gan y PRS For Music Foundation i gomisiynu gwaith newydd gan y cyfansoddwr o America, Arlene Sierra.
Bydd gŵyl INTER/actions 2014 yn cynnwys y perfformiad cyntaf o “Urban Birds” gan Sierra ar gyfer piano, offerynnau electronig gydag enghreifftiau o ganeuon adar, gyda thri unawdydd o fri ar yr allweddellau sef Sarah Nicholls (Llundain), Xenia Pestova (Bangor) a Kathleen Supove (Efrog Newydd).
Ar ôl perfformio yn yr ŵyl bydd y sioe yn mynd ar daith i Gaerdydd, Efrog Newydd, Llundain a Glasgow.
Bydd y New Music Biennial yn cyflwyno cyfres o 20 o ddarnau newydd o gerddoriaeth a gomisiynwyd i gynulleidfaoedd ledled y DU yn 2014. Cyflwynir pob un o’r darnau yn ystod dau benwythnos arbennig, un yn Llundain rhwng 4–6 Gorffennaf 2014, ac un yn Glasgow, 2–3 Awst 2014, i gyd-fynd â Gemau’r Gymanwlad.
Hefyd, mae’r Ysgol Cerddoriaeth wedi cael £26,000 gan y Grŵp Benefactions tuag at adfer piano.
Meddai Xenia Pestova o Ysgol Gerddoriaeth Prifysgol Bangor: “Mae’r Ysgol Gerdd yn hynod o ddiolchgar i’r grŵp am eu cefnogaeth hael tuag at y gost o adfer piano.
“Yn ogystal â phrynu piano baby grand Yamaha newydd sbon at ddibenion dysgu byddwn hefyd yn gallu atgyweirio ein piano arbennig ar gyfer cyngherddau, y Bosendorfer Imperial yn Neuadd PJ. Disgwylir i’r gwaith hwn gael ei wneud yn ystod yr haf.
“Mae hyn yn gyffrous iawn gan y byddwn yn gallu gwahodd unawdwyr concerto proffesiynol i berfformio yn Neuadd PJ ar y piano Boesendorfer Imperial. Mae’r piano hwn yn un prin iawn gan fod naw nodyn ychwanegol yn y cywair isaf ac rydym wrth ein boddau ein bod yn gallu ei achub a’i gwneud yn addas i chwarae.
“Mae’r myfyrwyr yn hapus iawn gyda’r piano newydd ac rydym eisoes wedi ei enwi’n "Clara" ar ôl y cyfansoddwr a’r pianydd Clara Schumann!”
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill 2013