Gŵyl INTER/actions yr Ysgol Cerddoriaeth yn ennill grant sylweddol gan sefydliad New Music Biennial y PRS
Dewiswyd yr INTER/actions Festival of Interactive Electronic Music gan y Sefydliad PRS New Music Biennial i gomisiynu gwaith newydd gan Arlene Sierra. Dyfarnwyd £20,000 i’r Ŵyl.
Mae’r New Music Biennial yn cyflwyno cyfres o 20 o gomisiynau cerddoriaeth newydd sbon i gynulleidfaoedd ar draws gwledydd Prydain yn 2014. Hefyd cyflwynir yr holl gomisiynau hyn mewn dau benwythnos arbennig yn Llundain (4–6 Gorffennaf 2014) a Glasgow (2–3 Awst 2014) i gyd-daro â Gemau’r Gymanwlad.
Bydd rhifyn 2014 o INTER/actions yn cynnwys y perfformiad cyntaf o “Urban Birds” gan Sierra ar gyfer pianos, offerynnau electronig a samplau canu adar, gyda thri o unawdwyr allweddellau nodedig: Sarah Nicholls (Llundain), Xenia Pestova (Bangor) a Kathleen Supove (Efrog Newydd).
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2013