Gŵyl R.S. Thomas, Aberdaron a Bangor
Mae gŵyl flynyddol sydd yn dathlu gwaith y bardd, R.S. Thomas a’i wraig, yr artist Mildred ‘Elsi’ Eldridge, i’w chynnal yn ei blwyf olaf, Aberdaron, ym mhen-draw penrhyn Llŷn, ar Fehefin 29 - 1 Gorffennaf.
Mae’r Athro Tony Brown, cyd-gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil R.S. Thomas Prifysgol Bangor wedi bod yn ymwneud â’r ŵyl ers sawl blwyddyn. Meddai:
“Mae dau o’r siaradwyr eleni â chysylltiadau â Phrifysgol Bangor. Daeth yr Athro Daniel Westover o’r UDA i astudio ar gyfer ei radd PhD ar R.S. Thomas ac mae bellach yn Athro’r Saesneg ym Mhrifysgol Tennessee. Mae teitl ei sgwrs “The Poetic Astronaut of the God-Space” ynddo’i hun yn ddigon i ennyn chwilfrydedd. Bu Dr Sam Perry, sydd bellach ym Mhrifysgol Hull, hefyd yn cynnal ymchwil yn y Ganolfan, ac mae ei lyfr ef, ar ymateb R.S. Thomas i’r traddodiad barddol Seisnig, newydd ei gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Caergrawnt. Bydd yn trafod ‘R.S. Thomas: Chameleon Poet’.”
Ddydd Sadwrn (30ain), bydd yr Athro John McEllhenney yn trafod gwaith Elsi Eldridge. Meddai’r Athro Brown: “Roedd Elsi Eldridge yn arlunydd cywrain a fu’n astudio dan ofal Paul Nash ac Eric Ravilious yn y Royal College of Art yn ystod y 1930au. Enillodd Ysgoloriaeth i’r Eidal ym 1934 a bydd John McEllhenney yn adrodd hanes ei theithiau yn y wlad honno. Mae gan y Ganolfan casgliad sylweddol o lythyrau a llyfrau braslunio yn ogystal â’i chyfrol hunangofiannol, yr wyf wrthi ar hyn o bryd yn eu golygu ar gyfer eu cyhoeddi. Bydd hon yn sgwrs hynod ddiddorol, ac mae’r lleoliad, Aberdaron, yn hynod o hardd wrth reswm.”
Mae’r ŵyl yn symud i Gadeirlan Bangor ddydd Sul Gorffennaf 1af, gyda’r perfformiad cyntaf erioed o waith gan Ellen Davies (sydd â gradd mewn Cerddoriaeth o Fangor) gyda’r teitl Pilgrimages, gan Ensemble Cymru, gydag Anne Denholm, y Delynores Frenhinol. Yr ysbrydoliaeth tu cefn i’r cyfansoddiad cerddorfaol yma yw tair cerdd o waith R.S. Thomas, yn ogystal â thirwedd penrhyn Llŷn.
Mae manylion llawn yr ŵyl ar gael yma: https://rsthomaspoetry.co.uk/2018-programme/
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mehefin 2018