Gŵyl Treborth yn codi dros £17,000 i Sophie
Croesawodd Gardd Fotaneg Treborth Ŵyl Gerdd Draig Beats yn ddiweddar, er mwyn codi arian ar gyfer addasiadau angenrheidiol i gartref Sophie Williams. Roedd Sophie yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor ac yn gadwraethwr angerddol, ond mae hi wedi’i pharlysu ar ôl dal haint feirol yr ymennydd, Enceffalitis Japaneaidd, dair blynedd yn ôl wrth gynnal ymchwil yn Tsieina.
Trefnwyd yr Ŵyl gan ffrindiau Sophie, gyda chefnogaeth sylweddol gan y Brifysgol. Roedd yn llwyddiant ysgubol, gyda dros 800 o bobl yn mwynhau cerddoriaeth, bwyd, gweithdai a gweithgareddau i blant ar ddydd Sadwrn heulog. Lleolwyd y brif lwyfan mewn pabell syrcas fawr, ac roedd sawl math o gerddoriaeth yn cael ei berfformio; o ddrymio, i ganu a cappella gan Threnody, a rhythmau Banda Bacana. Gwefreiddiwyd y gynulleidfa gan ddoniau meistr y Kora a’r drymiwr, Sekou Keita o Affrica, sy’n gerddor â bri rhyngwladol. Yn coroni’r Ŵyl oedd set gan Drymbago, sef y band yr oedd Sophie’n arfer bod yn aelod ohono, gyda’r babell yn llawn o ddawnswyr egnïol ar gyfer eu perfformaid. Roedd cerddoriaeth werin gan Mouton, a’r cerddorion Hannah Willwood a Bear Love ar lwyfannau eraill. Ym mannau mwy distaw yr ardd, roedd cyfleoedd i brofi Tai Chi neu i ymgolli yn sain y gong.
Roedd pob un o’r artistiaid yn perfformio’n ddi-dâl, fel bod elw’r tocynnau’n mynd at Ymddiriedolaeth Sophie Williams, yn ogystal ag elw’r bwyd a’r gweithdai. Roedd elw’r diwrnod dros £17,000. Daeth Sophie i’r digwyddiad ac roedd yng nghanol y gynulleidfa ar gyfer nifer o’r perfformiadau. Wedi’r diwrnod, roedd ganddi neges i bawb: “Diolch o galon am ddod i Draig Beats. Roedd yn gymaint o hwyl, yn enwedig perfformiad Seckou Keita, a oedd yn anhygoel!”
Meddai Natalie Chivers, Curadur Gardd Fotanegol Treborth:
“Pleser oedd cael croesawu Gŵyl Draig Beats yma. Mae Sophie wedi bod yn rhan annatod o’r Ardd fyth ers ei chyfnod fel myfyrwraig yma, a bu’n cynorthwyo i drefnu ein Gŵyl gerddoriaeth gyntaf, Botanical Beats, yn 2009. Roedd yn hollol naturiol felly ein bod yn cynorthwyo a chasglu ynghyd y rhai sydd yn caru Sophie ac sydd eisio’i chynorthwyo fel ei bod yn medru symud yn ôl i’w chartref yn Nhregarth.”
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mehefin 2018